Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Tystysgrifau diogelwch ar gyfer meysydd chwaraeon

Mae Rheoli Adeiladu Abertawe'n ymdrin â thystysgrifau cyffredinol ac arbenigol ar gyfer stadia chwaraeon dynodedig yn yr ardal.

Stadiwm Swansea.com Cartref Clwb Pêl-Droed Dinas Abertawe a Gweilch Castell-nedd - Abertawe

Stadiwm seddau'n unig i 20,000 o bobl yw hwn, gyda chyfleusterau gwych i bobl ag anableddau. Mae gan Brif Stand y Gorllewin gyfleusterau clwb, ystafelleodd achlysuron a lletygarwch ar bedair lefel. Mae standiau'r Gogledd, y Dwyrain a'r De yn ffurfio "pedol" ddwy haen o gwmpas y Gorllewin.

Ceir chwe set o risiau yn y brif stand ac yn standiau'r Gogledd, y De a'r Dwyrain. Gan fod hwn yn stadiwm amlbwrpas, mae'r pedwar twnnel cornel sydd yno'n caniatáu i wylwyr fynd ar y cae ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau tebyg eraill. Yn stand y Gorllewin ceir 28 blwch uwchraddol a lolfa uwchraddol ar lefel 3. Mae gan Lefel 2 ystafelloedd cynhadledd/digwyddiadau ac ar Lefel 1 ceir swyddfeydd y clwb, ffreutur y chwaraewyr a lolfeydd i noddwyd/bobl bwysig.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Peter Richards 01792 635622.

Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 fel a ddiwygiwyd gan Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987

Cyhoeddi diwygiad i'r Dystysgrif Diogelwch Cyffredinol - Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Yn unol â Rheoliad 5 (5) Meysydd Chwaraeon a Digwyddiadau Chwaraeon - Rheoliadau Diogelwch Meysydd Chwarae 1987, hysbysir drwy hyn fod y cyngor wedi diwygio'r Dystysgrif Diogelwch Cyffredinol ar gyfer Stadiwm Swansea.com.

Mae'r diwygiad yn ymwneud â mesurau ar gyfer Bioddiogelwch, Covid 19.

Mae copi o'r dystysgrif ar gael drwy gysylltu â Rheoli Adeiladau, Canolfan Ddinesig Abertawe o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 4.00pm.

E-bostiwch: bcon@abertawe.gov.uk neu ffoniwch: 01792 635636.

Close Dewis iaith