Ymchwiliad Craffu i ymddygiad gwrthgymdeithasol - cyfle i ddweud eich dweud
Y prif ffocws ar gyfer yr ymchwiliad yw gweld sut mae'r cyngor a'i bartneriaid yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe.
Y cwestiwn allweddol felly yw:
Sut gall y cyngor sicrhau ei fod yn gweithio gyda'i bartneriaid i fynd i'r afael yn briodol ac yn effeithiol ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe?
Bydd gan yr ymchwiliad ffocws strategol, gyda throsolwg o rolau a chyfrifoldebau, blaenoriaethau, pwerau, profiad a thueddiadau cyfredol, gweithgarwch a chyflawniad partneriaeth a sut y gellir gwella pethau.
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â sut y darperir swyddogaethau'r cyngor a sut mae'n gweithio gyda'i bartneriaid ac eraill i fynd i'r afael ag ef mewn cymunedau ledled Abertawe. Bydd hefyd yn ystyried beth y mae'r cyngor yn ei wneud yn dda a'r hyn y gellid ei wella yn y maes hwn.
I helpu i ddeall y materion hyn ac ateb rhai o'r cwestiynau rydym yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig ar y llinellau ymholi canlynol:
1. Effeithiolrwydd strategaethau, polisïau a gweithdrefnau wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac a yw'r cyngor yn bodloni ei rwymedigaethau rheoliadol yn y maes hwn.
2. Rôl y cyngor wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i leihau.
3. Rôl partneriaid wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a'i leihau.
4. Pas mor dda y mae'r cyngor a'i bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe a'i leihau.
5. Yr offer sydd ar gael i helpu'r cyngor a'i bartneriaid i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
6. Pa mor dda yw'r wybodaeth a ddarperir i'r cyhoedd, a'r modd y cyfathrebir â hwy.
7. Monitro a rheoli perfformiad.
8. Sut mae'r cyngor a'n partneriaid yn mynd i'r afael ag achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol.
9. Enghreifftiau o fentrau ac arfer da wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau eraill.
10. Goblygiadau Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol.
Beth nad yw'n rhan o'r ymchwiliad?
Achosion unigol o ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG). Dim ond fel enghreifftiau o arfer.
Cyfle i ddweud eich dweud drwy e-bost neu'r post
Hoffai'r panel glywed gan gynifer o aelodau'r cyhoedd a sefydliadau â phosib cyn gynted â phosib. Os hoffech gyflwyno tystiolaeth sy'n ymwneud â'r ymchwiliad hwn, gallwch wneud hynny drwy ysgrifennu atom yn:
E-bost: craffu@abertawe.gov.uk
Post: Y Tîm Craffu, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4SN
Dyddian cau: 31 Mawrth 2023