Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Trwydded ymwelydd teuluol

Os ydych yn berthynas person y mae angen lefelau sylweddol o ofal a chefnogaeth arno oherwydd salwch neu oedran, gallwch wneud cais am drwydded i barcio yn y lleoedd parcio i breswylwyr yn ei stryd.

  • Bwriedir i'r math hwn o drwydded gael ei ddefnyddio gan berthynas person y mae angen lefelau sylweddol o ofal a chefnogaeth arno oherwydd salwch neu oedran.
  • Mae trwydded ymwelydd teuluol yn para am flwyddyn o'r dyddiad cyflwyno ac yna rhaid ei hadnewyddu.
  • Maent am ddim.
  • Maent yn caniatáu i'r ymwelydd barcio ar y stryd lle mae'r person maent yn ymweld ag ef yn byw.
  • Os oes 2 drwydded parcio i breswylwyr eisoes wedi'u rhoi ar gyfer yr eiddo, ni fyddwn yn gallu rhoi trwydded ymwelydd teuluol.
  • Rhoddir un drwydded ymwelydd teuluol i un aelwyd ond gall ddangos dau rif cofrestru cerbyd gwahanol arni.

Pa dystiolaeth y mae angen i ni ei gweld gyda'ch cais am drwydded ymwelydd teuluol?

Rhaid cael llythyr i gefnogi'r ceisiadau am y trwyddedau hyn gan feddyg eich perthynas yn cadarnhau bod angen lefelau sylweddol o ofal a chefnogaeth ar y person rydych yn ymweld ag ef. Er hwylustod, gall meddyg y person rydych yn ymweld ag ef gwblhau'r ffurflen  Llythyr meddyg ar gyfer trwydded ymwelydd teuluol (PDF) [84KB] i gadarnhau bod angen lefelau sylweddol o ofal a chefnogaeth arno. Neu, os ydych yn gwneud cais ar ffurflen gais bapur, gall y meddyg lofnodi hwn hefyd.

Os bydd meddyg yn codi tâl am ddarparu'r dystiolaeth hon/llofnodi'r ffurflen, yna gellir defnyddio Bathodyn Glas y person rydych yn ymweld ag ef fel tystiolaeth.

Cyflwynwch gais am drwydded barcio ymwelydd teuluol Cyflwynwch gais am drwydded barcio ymwelydd teuluol

Pryd byddwch yn derbyn eich trwydded?

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch cais, fel arfer caiff eich trwydded ei phostio atoch o fewn 5 niwrnod gwaith cyhyd â bod y ffurflen wedi'i chwblhau a bod yr holl ddogfennaeth gefnogol ynghlwm. Gadewch amser i'r gwasanaeth post ddosbarthu'r drwydded i chi.

Os nad ydych wedi darparu'r holl dystiolaeth angenrheidiol, gwrthodir eich cais am drwydded.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â gwneud cais am drwydded barcio, ffoniwch Cyswllt Abertawe ar 01792 637366. 

Cyflwynwch gais am drwydded barcio ymwelydd teuluol

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i gyflwyno cais am drwydded barcio ymwelydd teuluol am y stryd rydych yn byw arni.
Close Dewis iaith