Toglo gwelededd dewislen symudol

Adolygiad o Ystadegau Cydraddoldeb

Adolygiad o ystadegau ar gyfer Abertawe o ran nodweddion poblogaeth mewn perthynas â chydraddoldeb.

Yn 2023, cynhaliom ein hail adolygiad o'r ystadegau cyhoeddedig sydd ar gael ynghylch nodweddion y boblogaeth mewn perthynas â chydraddoldeb; er mwyn deall amrywiaeth poblogaeth Abertawe, sut y mae wedi newid a beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Mae'r ddogfen  Adolygiad Ystadegau Cydraddoldeb (PDF) [1MB] yn edrych ar gyfres o ddangosyddion cydraddoldeb allweddol ar gyfer Abertawe, gan gyflwyno'r ystadegau diweddaraf sydd ar gael a darparu rhywfaint o sylwadau a dadansoddiad o'r hyn y mae'r data yn ei ddangos. 

Mae'r Adolygiad hwn yn gallu cynnwys ystadegau a gwybodaeth wedi'u diweddaru o Gyfrifiad 2021, gan gynnwys data lleol ar rai o nodweddion y boblogaeth am y tro cyntaf.

Mae'r nodweddion canlynol a restrir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cael eu hystyried:

  1.  Oedran
  2.  Anabledd
  3.  Ailbennu rhywedd
  4.  Priodas a phartneriaeth sifil
  5.  Beichiogrwydd a mamolaeth
  6.  Hil
  7.  Crefydd neu gred
  8.  Rhyw
  9.  Cyfeiriadedd rhywiol.

Mae'r ddogfen Adolygiad yn cynnwys tabl cryno cyffredinol sy'n dangos y dangosyddion poblogaeth allweddol ar gyfer pob un, gyda'r wybodaeth ganlynol wedi'i chynnwys mewn penodau ar wahân ar gyfer pob nodwedd:

  • Amlinelliad o'r ffynonellau data perthnasol sydd ar ynghylch y nodwedd
  • Crynodeb o'r ystadegau allweddol sydd ar gael ynghylch Abertawe a chymariaethau cenedlaethol
  • Unrhyw amrywiadau lleol yn Abertawe, er enghraifft, trwy gyfrwng data'r Cyfrifiad
  • Awgrym o newid dros amser (o'r ffynonellau data a ddefnyddir)
  • Tueddiadau posibl yn y dyfodol, os gellir eu nodi.

Sylwer: diweddarwyd rhannau o'r ddogfen (1. Oed; 8. Rhyw) ymhellach ym mis Chwefror 2024 i gynnwys ystadegau poblogaeth ar gyfer canol 2022, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar ddiwedd 2023.

Mae crynodeb (PDF) [477KB] byr sy'n tynnu sylw at ganfyddiadau allweddol yr Adolygiad diweddaraf hefyd ar gael (diweddarwyd Chwefror 2024), ynghyd â fersiynau blaenorol o'r adolygiad.

Drwy ganolbwyntio ar y nodweddion gwarchodedig a ddisgrifir yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae'r Adolygiad hefyd yn llywio ac yn cefnogi Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor:  Cynllun cydraddoldeb strategol - Abertawe

Os hoffech chi unrhyw wybodaeth ystadegol ychwanegol am nodweddion poblogaeth Abertawe, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill am yr ystadegau hyn, cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith