Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithdrefn gwynion gorfforaethol

Rydym yn ymrwymedig i wrando ar farn ein cwsmeriaid, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol.

Os ydych am gwyno, dylech godi'r mater yn gyntaf â'r adran neu ddarparwr y gwasanaethau perthnasol.

Ar gyfer cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r Gwasanaethau Cymdeithasol: Swyddog Cwynion (Gwasanaethau Cymdeithasol), neu drwy'r Tîm Cwynion Corfforaethol.

Ar gyfer pob cwyn arall am y cyngor:

Os ydych yn anfodlon ar ymateb yr adran, dylech gwyno wedyn i'r adran honno fel cwyn cam 1 yn unol â pholisi cwynion a gweithdrefnau'r cyngor.

Gweithdrefn gwyno

Cwynion Cam 1

  • I ddechrau, bydd yr Adran Gwasanaeth berthnasol yn ymdrin â'ch cwyn a'r gobaith yw y caiff ei datrys.
  • Bydd yr Adran Gwasanaeth yn ceisio ymateb i'ch cwyn o fewn 10 niwrnod gwaith.

Cwynion Cam 2

  • Os nad ydych wedi derbyn ymateb gan yr Adran Gwasanaeth o fewn 10 niwrnod gwaith a hynny heb reswm da, neu os ydych wedi derbyn eglurhad neu ymateb ond rydych yn parhau'n anfodlon arno, gallwch gyfeirio'ch cwyn at y Tîm Cwynion.
  • Bydd y Tîm Cwynion yn adolygu'ch cwyn ar ran y Prif Weithredwr.
  • Caiff eich cwyn ei chofnodi a byddwch yn derbyn ymateb o fewn 20 niwrnod gwaith. Weithiau gall gymryd yn hwy ond byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd hyn yn wir.

Beth os ydych yn anfodlon o hyd?

Cwyno i'r ombwdsmon

Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad eich cwyn, ar ôl iddi fynd drwy ddau gam gweithdrefn y cyngor, gallwch ddewis cyfeirio'r mater at: Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Close Dewis iaith