
Arweiniad Cyffredinol i Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r bwrdd yn gwneud gwahaniaeth drwy sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r un blaenoriaethau.
Mae gan y bwrdd bedair prif dasg:
1. Llunio a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn Ninas a Sir Abertawe
2. Llunio a chyhoeddi Cynllun Lles lleol ar gyfer Dinas a Sir Abertawe sy'n nodi amcanion lleol a'r camau y mae'n cynnig eu cymryd i'w cyflawni
3. Cymryd yr holl gamau rhesymol i gyflawni'r amcanion lleol a osodwyd
4. Llunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi cynnydd y bwrdd wrth geisio cyflawni'r amcanion lleol
Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy
Datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor gweithgareddau'r bwrdd. Mae hyn yn golygu gweithio mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau y diwellir anghenion presennol heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Yn benodol, mae datblygu cynaliadwy'n golygu ystyried y ffyrdd o weithio canlynol:
- Y tymor hir: Cydbwyso anghenion tymor byr â'r angen i ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
- Ataliaeth: Gweithredu i atal problemau rhag codi neu waethygu.
- Integreiddio: Sicrhau fod pob asiantaeth cyhoeddus yn ystyried y nodau llesiant cenedlaethol ac amcanion cyrff cyhoeddus eraill wrth bennu eu blaenoriaethau eu hunain.
- Cydweithio: Gweithio gydag unrhyw un a allai helpu sefydliad i gyflawni ei amcanion lles.
- Cynnwys: Cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau lles a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal leol.