Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiad Caethwasiaeth Fodern

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i fynd i'r afael â Chaethwasiaeth Fodern ac ni fydd yn goddef unrhyw achos ohono o fewn ei gadwyn gyflenwi.

  1. Trosolwg
  2. Beth yw caethwasiaeth fodern?
  3. Ein Polisïau
  4. Ein Cadwyn Gyflenwi
  5. Hyfforddiant i Weithwyr
  6. Dyletswyddau Cyngor Abertawe
  7. Mesurau Perfformiad Allweddol
  8. Beth fydd y Cyngor yn ei wneud

1. Trosolwg

Mae Cyngor Abertawe yn darparu ystod eang o wasanaethau statudol a dewisol i dros 300,000 o breswylwyr. Mae'r Cyngor yn gwneud hyn drwy ei weithlu ei hun a thrwy dros 2,000 o sefydliadau preifat a'r trydydd sector.
Mae'r Cyngor yn llofnodwr Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae'r Cod Ymarfer yn cynnwys y materion cyflogaeth canlynol:

  • Caethwasiaeth fodern a thorri hawliau dynol.
  • Dim arfer o rwystro gweithwyr rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch yr Undebau Llafur yn ein cadwyn gyflenwi, na gwrthod hyn iddynt.
  • Hunangyflogaeth ffug.
  • Defnydd annheg o gynlluniau mantell a chontractau dim oriau
  • Talu'r Cyflog Byw. 

Mae 12 ymrwymiad y Cod yn cynnwys mynd i'r afael â Chaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl. Mae'r Datganiad hwn yn nodi'r camau y mae'r Cyngor wedi'u cymryd, ac y bydd yn eu cymryd, i sicrhau nad oes unrhyw achos o Gaethwasiaeth Fodern na Masnachu Pobl yn ei fusnes na'i gadwyn gyflenwi ei hun. Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod ei Ddatganiad Caethwasiaeth Fodern yn amlwg ac yn hysbys ac i sicrhau 'Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi'. I'r perwyl hwn mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach, cyflenwyr, darparwyr gwasanaethau, undebau llafur ac eraill i fynd i'r afael â heriau caethwasiaeth fodern a sbarduno camau gweithredu ar y cyd gyda'r bwriad o leihau risgiau caethwasiaeth fodern a nifer yr achosion ohoni.

2. Beth yw caethwasiaeth fodern?

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn torri hawliau dynol sylfaenol. Mae sawl ffurf wahanol arni, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol a masnachu pobl, y maent oll yn enghreifftiau o amddifadu person o'i ryddid gan eraill er mwyn manteisio arno er budd personol neu fasnachol.
Amcangyfrifir bod caethwasiaeth fodern yn effeithio ar hanner can miliwn o bobl ledled y byd, gan gynnwys y DU a Chymru. Mae dioddefwyr yn cael eu masnachu ym mhedwar ban byd am ychydig neu ddim arian, gan gynnwys i'r DU ac oddi mewn iddi. Gellir eu gorfodi i weithio yn y fasnach rhyw, caethwasanaeth domestig, llafur gorfodol a chymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol. Mae sectorau risg uchel ar gyfer Caethwasiaeth Fodern yn cynnwys amaethyddiaeth, hamdden, lletygarwch, arlwyo, glanhau, dillad, adeiladu a gweithgynhyrchu.

3. Ein Polisïau

Mae Corporate Safeguarding Policy yn disgrifio gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Abertawe, 6 blaenoriaeth allweddol y Cyngor (amcanion lles) a gwerthoedd ac egwyddorion ein sefydliad a fydd yn sail i gyflawni ein blaenoriaethau a'n strategaeth gyffredinol.
Ein Gweledigaeth

Yn 2028, mae Abertawe yn lle ag iddi ganol dinas defnydd cymysg ac economi leol. Mae'n fan lle gall pobl ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd, lle gall pawb gyflawni'u potensial a lle mae cymunedau'n gadarn ac yn gydlynol. Mae Abertawe'n fan lle mae hawliau dynol yn cael eu parchu, a lle mae pobl yn cael eu diogelu rhag niwed a chamfanteisio. Mae'n fan lle mae natur a bioamrywiaeth yn cael eu cynnal a'u gwella, ac allyriadau carbon yn gostwng.

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth rydym wedi blaenoriaethu'r chwe amcan lles. Y rhain yw:

  • Diogelu pobl rhag niwed - fel bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed a chamfanteisio.
  • Gwella Addysg a Sgiliau - fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.
  • Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd - fel bod gan Abertawe ganol dinas defnydd cymysg, ffyniannus ac economi leol a fydd yn cefnogi ffyniant ein dinasyddion.
  • Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau - fel y gall pob person yn Abertawe gyflawni ei botensial.
  • Cyflawni mewn perthynas ag Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd - fel ein bod yn cynnal ac yn gwella natur a bioamrywiaeth yn Abertawe, yn lleihau ein hôl-troed carbon ac yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
  • Trawsnewid a Chadernid Ariannol - fel ein bod ni a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu'n gynaliadwy ac yn addas i'r dyfodol.

Mae Polisi Diogelu Corfforaethol hollgynhwysol y Cyngor (Corporate Safeguarding Policy) yn nodi dyletswydd ac ymrwymiad y Cyngor i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl ac i sicrhau bod arferion effeithiol ar waith ar draws y Cyngor a'i wasanaethau a gomisiynwyd. Mae'r polisi yn cwmpasu holl swyddogaethau a gwasanaethau'r Cyngor ac mae'n berthnasol i holl weithwyr y Cyngor, aelodau etholedig, gofalwyr maeth, unigolion sy'n ymgymryd â lleoliadau gwaith a gwirfoddolwyr sy'n gweithio o fewn y Cyngor.
Mae'r strategaethau a'r polisïau allweddol eraill yn cynnwys y canlynol: 

  • Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a dileu caethwasiaeth fodern, fel bod Cyngor Abertawe yn chwarae rhan flaenllaw wrth wneud Cymru'n elyniaethus i gaethwasiaeth fodern.
  • Mae'r Polisi Datgelu Camarfer yn galluogi staff a gweithwyr contractwyr/ cyflenwyr y Cyngor i roi gwybod i'r Cyngor am arferion cyflogaeth anfoesegol. 
  • Polisi Cefnogi Gweithwyr y mae Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi effeithio arnynt
  • Mae'r Côd Ymddygiad Gweithwyr yn egluro i weithwyr y camau gweithredu a'r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt wrth gynrychioli'r Cyngor. Wrth gyflawni eu dyletswyddau, mae'n rhaid iddynt weithredu gyda didwylledd, gonestrwydd, amhleidioldeb a gwrthrychedd. Mae'r sefydliad yn ymdrechu i gynnal y safonau uchaf o ymddygiad gan weithwyr ac ymddygiad moesegol yn ei holl weithrediadau ac wrth reoli ein cadwyn gyflenwi. 
  • Polisi recriwtio - Nod y Cyngor bob amser yw recriwtio'r person sy'n

fwyaf addas ar gyfer y swydd benodol. Mae gan y Cyngor brosesau recriwtio cadarn, sy'n cynnwys gwirio dogfennau i sicrhau bod hawl gan ymgeiswyr i weithio yn y Deyrnas Unedig. 

  • Gweithwyr asiantaeth - mae'r Cyngor yn dod o hyd i'r holl weithwyr asiantaeth a staff dros dro gan ddarparwyr trydydd parti. Byddwn yn penodi cyflenwyr sy'n arfer ymagwedd dim goddefgarwch at gaethwasiaeth fodern ac sy'n ymrwymedig i gyflogaeth foesegol a diogelu eu gweithwyr yn unig.

4. Ein Cadwyn Gyflenwi

Mae Cyngor Abertawe yn darparu ystod eang o wasanaethau statudol a dewisol i dros 300,000 o breswylwyr. Mae'r Cyngor yn gwneud hyn drwy ei weithlu ei hun a thrwy dros 2,000 o sefydliadau preifat a'r trydydd sector. Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i reoli arian cyhoeddus yn gywir a sicrhau bod ei £350m+ o wariant caffael blynyddol yn cael ei reoli yn y fath fodd fel ei fod yn cefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau ehangach y Cyngor. 

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod ein cadwyni cyflenwi'n lledaenu ar draws y byd, ac y gallai rhannau o'r gadwyn gyflenwi fod yn ymwneud â chaethwasiaeth fodern. Bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar ein cyflenwyr uniongyrchol a bydd yn mynnu bod ein cyflenwyr yn sicrhau bod eu cadwyn gyflenwi'n rhydd o gaethwasiaeth fodern trwy gymwysterau cyflenwyr.

Ystyrir bod y risg o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl gan ein cyflenwyr uniongyrchol yn isel. Drwy'r broses dendro, mae'r Cyngor yn sicrhau bod ein cyflenwyr uniongyrchol yn ymwybodol o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl a'u bod hefyd yn deall eu rhwymedigaethau fel cyflenwr neu gontractwr y Cyngor. Mae'r Cyngor yn ymgymryd â diwydrwydd dyladwy wrth ystyried cyflogi cyflenwyr newydd. Mae'r diwydrwydd dyladwy a'r adolygiadau'n cynnwys:

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofyniad a54 (Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015) ynghylch Datganiad Caethwasiaeth Fodern ac, fel rhan o werthuso tendrau a rheoli contractau parhaus, ystyried potensial a thebygolrwydd caethwasiaeth fodern; ceisio mesurau lliniaru gan y cyflenwr trwy ddealltwriaeth glir o strwythur, busnes a chadwyni cyflenwi'r cyflenwyr a pholisïau mewn perthynas â chaethwasiaeth a masnachu pobl.
  • Cynnal asesiadau cyflenwyr i greu proffil risg sy'n canolbwyntio ar sefydlogrwydd ariannol a hefyd yn cwmpasu yswiriant a chydymffurfiaeth ag amrywiol bolisïau cyflogaeth gan gynnwys Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. 
  • Cymryd camau i wella arferion cyflenwyr sydd dan y safon gan gynnwys darparu cyngor i gyflenwyr ac sy'n mynnu eu bod yn rhoi Cynlluniau Gweithredu ar waith; er enghraifft, i ddangos eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau recriwtio mwy diogel.
  • Cymryd rhan mewn mentrau cydweithredol sy'n canolbwyntio ar hawliau dynol a pholisïau caffael sy'n gymdeithasol gyfrifol yn gyffredinol, a chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn arbennig, gan gynnwys Grŵp Diogelu Corfforaethol y Cyngor.
  • Defnyddio sancsiynau mewn perthynas â chyflenwyr sy'n peidio â bodloni ein disgwyliadau neu wella'u perfformiad yn unol â Chynllun Gweithredu, sy'n cynnwys darpariaeth i derfynu'r berthynas fusnes

5. Hyfforddiant i Weithwyr

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu ystod o hyfforddiant i'n gweithwyr er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern, masnachu pobl a llafur gorfodol. Yn ogystal â hyfforddiant lefel ymwybyddiaeth bydd angen hyfforddiant ar rai staff sy'n benodol i'w rôl er enghraifft ymatebwyr cyntaf a nodwyd a staff comisiynu a chaffael.
Mae'r modiwlau e-ddysgu gorfodol i staff yn cynnwys:

  • Mae Pawb yn Gyfrifol am Ddiogelu
  • Cydraddoldeb ar waith

6. Dyletswyddau Cyngor Abertawe:

Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Abertawe i ddiogelu a hyrwyddo lles plant mewn perygl ac oedolion mewn perygl. Nod y cyngor yw sicrhau bod pawb sy'n gweithio gyda phlant a/neu oedolion, neu ar eu rhan, yn gymwys, yn hyderus ac yn ddiogel i wneud hynny, drwy weithio o fewn y fframweithiau cyfreithiol a statudol a nodir yn y canlynol:

  • Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019) (Diogelu Cymru)
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (DGCaLl)
  • Deddf Plant 1989 a 2004 
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Confensiwn y CU ar Hawliau'r Plentyn 
  • Egwyddorion Hawliau Dynol y CU 
  • Confensiwn y CU ar Hawliau Pobl Anabl
  • Deddf Diogelu Data 2018 
  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2015
  • Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015
  • Sicrhau bod ein dull gweithredu yn gyson ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 
  • Defnyddio Gweithdrefnau Diogelu Cymru (2019) ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso. Dyma Weithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Cymru. Maent yn manylu ar rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso. 
  • Mae dyletswydd i gydweithredu, gan gydweithio fel partneriaid â'r sefydliad arweiniol wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau diogelu.
  • Mae dyletswydd ar holl bartneriaid perthnasol awdurdod lleol i roi gwybod am blentyn sydd mewn perygl. O dan Adran 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (legislation.gov.uk/cy).
  • Mae dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud ymholiadau (gan ddilyn adran 47 o'r Ddeddf Plant) os cânt wybod y gall fod plentyn mewn perygl; a chymryd camau i sicrhau bod y plentyn yn ddiogel. O dan Adran 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (legislation.gov.uk/cy).
  • Mae dyletswydd ar holl bartneriaid perthnasol awdurdod lleol i roi gwybod am bryder am oedolyn sydd mewn perygl, ac i awdurdod lleol wneud ymholiadau os oes ganddo achos rhesymol i amau bod person yn ei ardal (p'un a yw'n preswylio yno fel arfer ai peidio) yn oedolyn sydd mewn perygl. O dan Adran 126 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (legislation.gov.uk/cy)
  • I gymhwyso'r Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol (PDF) [187KB] - Fframwaith newydd i hyrwyddo mesurau ac ymarfer a fydd yn arwain at leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i bobl o bob oed.
  • Fel rhan o drefniadau diogelu Cyngor Abertawe, mae swyddogion arweiniol ym mhob gwasanaeth sydd wedi derbyn hyfforddiant diogelu sy'n benodol i'w rôl ac sy'n gallu cynghori cydweithwyr yn eu gwasanaeth ynghylch materion diogelu. Cyfeirir at y swyddogion hyn fel Unigolion Diogelu Dynodedig.
  • Dylai staff ddilyn gweithdrefnau diogelu perthnasol eu gwasanaeth unigol a'u cyfarwyddiaeth, a dylai fod gan wasanaethau eu gweithdrefnau diogelu eu hunain sydd ar gael i staff yn ystod eu gwaith pob dydd. Ar y cyd â'r arweinydd diogelu, gall staff benderfynu wedyn a ddylid cysylltu â'r arweinydd diogelu yn eu maes gwasanaeth, neu droi at gymorth arbenigol:

Os bydd gan Gynghorydd (neu unrhyw aelod o'r cyhoedd) bryderon ynghylch diogelwch oedolyn, dylid cysylltu â Phwynt Mynediad Cyffredin y Gwasanaethau Cymdeithasol ar unwaith drwy lenwi ffurflen atgyfeirio neu dros y ffôn.

Pwynt Mynediad Cyffredin y Gwasanaethau i Oedolion - Gofal Iechyd a Chymdeithasol: 
Ffôn: 01792 636519
pmc@abertawe.gov.uk

Diogelu Oedolion:
safeguarding@abertawe.gov.uk
Ffôn: 01792 636519
Oriau swyddfa: Dydd Llun - dydd Iau 08.30am - 5pm a dydd Gwener 08.30am - 4.30pm

Os oes gan Gynghorydd (neu unrhyw aelod o'r cyhoedd) bryderon am ddiogelwch plentyn neu berson ifanc, yna dylid cysylltu â Phwynt Cyswllt Unigol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar unwaith:
Pwynt Cyswllt Unigol y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
E-bost: singlepointofcontact@abertawe.gov.uk
Ffôn: 01792 635700
NEGES DESTUN: 07796275457
Dydd Llun - dydd Iau 08.30am - 5pm a dydd Gwener 08.30am - 4.30pm
Dylid cysylltu â Thîm y Tu Allan i Oriau'r Gwasanaethau Cymdeithasol os bydd problem yn codi ar ôl 5.00pm ddydd Llun i ddydd Iau ac ar ôl 4.30pm ddydd Gwener, ar y penwythnos neu ar wyliau banc. 
Ffôn: 01792 775501

7. Mesurau Perfformiad Allweddol

Bydd Cyngor Abertawe, drwy fwrdd y grŵp llywio Diogelu Corfforaethol, yn casglu, yn dadansoddi, yn monitro ac yn adolygu data sy'n gysylltiedig ag amcanion diogelu ac yn rhoi adroddiad am ystod o fesurau perfformiad allweddol, bob chwarter ac yn flynyddol.
 
Yn ogystal, caiff y cyngor archwiliad blynyddol annibynnol gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, a gall fod yn destun arolygiad gan Swyddfa Archwilio Cymru. 
Gall y dangosyddion perfformiad allweddol gynnwys y canlynol:

  • Bod gweithdrefnau diogelu ar waith a'u bod yn cael eu deall ar draws y sefydliad 
  • Nifer y pryderon a'r atgyfeiriadau a godwyd gan dimau anarbenigol yn y cyngor
  • Bod disgrifiadau swydd yr holl staff yn cynnwys diogelu fel cyfrifoldeb allweddol 
  • Bod staff a'r aelodau etholedig wedi cwblhau'r hyfforddiant diogelu gorfodol.

8. Beth fydd y Cyngor yn ei wneud

Bydd Cyngor Abertawe'n cymryd y camau canlynol yn ein hymdrechion i sicrhau nad oes Caethwasiaeth Fodern na Masnachu Pobl.

CyfCam gweithredu
1

Yn unol â chymal 7 y Cod Ymarfer, parhau i sicrhau bod y Cyngor yn cynnal adolygiad rheolaidd o wariant. Byddwn yn parhau i:

  • Nodi unrhyw gyflenwyr risg uchel a monitro ar gyfer achosion o dorri hawliau dynol ac arferion cyflogaeth anfoesegol a fydd yn dod yn eitem agenda safonol mewn cyfarfodydd contract ac adolygiadau. 
  • Archwilio ffyrdd o weithio gyda'n cyflenwyr Haen 1 i gynyddu ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern i'w hatal rhag digwydd drwy broses Asesu Risgiau ffurfiol: ''Mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi'.
2

Gan ddefnyddio'r Cod Ymarfer - Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi - llunio Strategaeth Cyfathrebu Caethwasiaeth Fodern i sicrhau y cynyddir ymwybyddiaeth ar draws y Cyngor a chyda sefydliadau partner ac asiantaethau eraill.

  • Rhannu dysgu ac arfer gorau ar draws y Cyngor, gyda chyrff eraill y sector cyhoeddusa phartneriaid ac ystyried dysgu o'u profiadau.
  • Parhau i ymgysylltu ag Undebau Llafur i gynyddu ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern gyda'u haelodau.
3
  • Byddwn yn cyflwyno rhaglen wedi'i thargedu o hyfforddiant rhithwir ar draws gwahanol gyfarwyddiaethau'r Cyngor - yn unol â chyfyngiadau sy'n gysylltiedig â COVID-19, wedi'u cydlynu â hyfforddiant Diogelu Corfforaethol ehangach.
  • Byddwn yn parhau i nodi staff y mae angen hyfforddiant arnynt mewn arferion cyflogaeth foesegol ac i geisio datblygu ymwybyddiaeth/gallu, yn enwedig ymhlith aelodau staff sydd â chyswllt uniongyrchol â'r cyhoedd ac sy'n gweithio yn y Gymuned.
  • Byddwn yn ceisio ehangu'r gronfa o hyfforddwyr mewnol sydd ar gael i hwyluso hyfforddiant lefel ymwybyddiaeth i staff ar draws y Cyngor.
  • Byddwn yn cadw cofnodion o bwy sydd wedi cyflawni hyfforddiant ar draws y gwahanol gyfarwyddiaethau ac yn targedu'r rhai lle mae angen gwella cyfraddau cwblhau.
4

Byddwn yn adolygu Dangosyddion Perfformiad Allweddol a all gynnwys y canlynol:

  • Bod gweithdrefnau diogelu ar waith a'u bod yn cael eu deall ar draws y sefydliad 
  • Nifer y pryderon a'r atgyfeiriadau a godwyd gan dimau anarbenigol yn y cyngor
  • Bod disgrifiadau swydd yr holl staff yn cynnwys diogelu fel cyfrifoldeb allweddol
  • Bod staff a'r aelodau etholedig wedi cwblhau'r hyfforddiant diogelu gorfodol.
5Adolygu a diweddaru'r Datganiad Caethwasiaeth Fodern hwn yn flynyddol lle bo'r angen
6Byddwn yn annog cyflenwyr i ychwanegu cymalau gwerth cymdeithasol caethwasiaeth fodern at gontractau newydd gan y bydd hyn yn cymell arfer da, gan gynnwys defnyddio offer a setiau data perthnasol.
7Byddwn yn cymryd rhan mewn 'cymunedau ymarfer' lle mae Awdurdodau Lleol yn gweithio gyda'i gilydd i rannu arfer gorau a chyflawni arbedion effeithlonrwydd, e.e. rhannu data diwydrwydd dyladwy ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i lywio archwiliadau, etc.
8

Cwblhau adolygiad a diweddaru dogfennaeth dendro'r Cyngor i sicrhau bod materion Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl yn cael sylw llawn sy'n cynnwys cymalau i:

  • Gynnwys y 'Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi' fel rhan o'n dogfennau tendro.
Close Dewis iaith