Hygyrchedd y wefan
Mae Cyngor Abertawe'n ymrwymedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch i'n holl gwsmeriaid ac rydym yn adolygu hyn trwy'r amser.
My Web, My Way
Gwefan gan y BBC yw hon gyda'r nod o roi'r sgiliau a'r ddealltwriaeth i gynulleidfa'r we i'w galluogi i fanteisio i'r eithaf ar y we fyd-eang, beth bynnag yw eu gallu neu eu hanabledd.
Mae'r wefan yn rhoi cyngor a help i'r holl bobl a fyddai'n elwa ar wneud newidiadau i'w porwyr, eu systemau gweithredu neu eu cyfrifiaduron er mwyn gallu gweld y we yn y ffordd fwyaf hygyrch posib.
Nid yw'r wefan ar gyfer y rhai ag anableddau (namau gweledol, clyw, motor, gwybyddol neu ddysgu) yn unig ond hefyd, er enghraifft, mae ar gyfer pobl â mân namau ar eu golwg na fyddent yn ystyried bod ganddynt anabledd.
Am fwy o wybodaeth, ewch i My Web My Way
Bysellau Mynediad:
Mae bysellau mynediad yn ddyfeisiau llywio defnyddiol i'ch galluogi i ymgyfarwyddo â'ch ffordd o gwmpas prif wefan y cyngor trwy ddefnyddio'ch bysellfwrdd. Gellir eu defnyddio i neidio i wahanol adrannau cynnwys ar draws prif wefan y cyngor.
Saesneg a Chymraeg Clir:
Ein nod i'r wefan yw iddi:
- wrthod jargon a defnyddio Saesneg syml, glir;
- bod yn hawdd ei chwilio er mwyn cael gwybodaeth am wasanaethau'r cyngor hyd yn oed os nad ydych yn gyfarwydd â strwythur y cyngor neu'r hyn rydym yn galw pethau.
Rydym yn ceisio:
- cyflwyno gwybodaeth mewn trefn resymegol ac yn ysgrifennu'n glir ac yn syml gan ddefnyddio geiriau pob dydd a brawddegau byr;
- cadw dyluniad ein gwe-dudalen yn syml, yn gyson a heb ddelweddau symudol.
Adborth:
Mae ein gwefan yn datblygu trwy'r amser. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw sylwadau am y wefan- da neu wael - neu unrhyw awgrymiadau am sut gallwn ni ei gwella.