Toglo gwelededd dewislen symudol

Yma i chi y gaeaf - Grant Gaeaf Llawn Lles 2024 / 2025

Mae Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru yn cynnig cyllid drwy'r Grant Gaeaf Llawn Lles.

Mae'r grant hwn yn cyfuno pump chynllun ariannu mewn un grant:

Gellir cyflwyno ceisiadau i un cynllun neu fwy drwy'r grant hwn.

  1. COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd) - i Blant a Phobl Ifanc
  2. COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd - i Bobl dros 50 Oed
  3. Lleoedd Llesol Abertawe
  4. Cronfa Bwyd y Gwyliau
  5. Cymorth Bwyd Uniongyrchol

Pwy sy'n gymwys i ymgeisio?

  • Cyrff cyhoeddus
  • Sefydliadau elusennol neu wirfoddol
  • Y rhai sydd ag amcanion elusennol a sefydliadau nider-elw
  • Sector preifat (COAST i Blant a Phobl Ifanc a Phobl dros 50 Oed yn unig)

Meini prawf y gronfa

Amlinellir dibenion y cynlluniau cyllido fel a ganlyn:

COAST (Creu Cyfleoedd ar draws Abertawe Gyda'n Gilydd) - meini prawf y grant

Lleoedd Llesol Abertawe - meini prawf y grant

Cronfa Bwyd Gwyliau - meini prawf y grant

Cymorth Bwyd Uniongyrchol - meini prawf y grant

Sut i gyflwyno cais

Llenwch y  a chyflwynwch yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol sy'n ofynnol. Gall peidio â chyflwyno'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.

Lefelau ariannu

Mae cyllid cyfyngedig ar gael, caiff pob cais ei asesu ar sail ei rinweddau ei hun, gan gynnwys gwerth am arian.

Fel arweiniad, byddem yn awgrymu mai'r canlynol yw'r uchafswm y gallwch gyflwyno cais amdano i bob cynllun:

  1. COAST i Blant a Phobl Ifanc- £2,500
  2. COAST i Bobl dros 50 Oed - £2,500
  3. Lleoedd Llesol Abertawe - £2,500
  4. Cronfa Gwyliau Bwyd - £2,500
  5. Cymorth Bwyd Uniongyrchol - (refeniw £1,500) (cyfalaf - £2,500)

Os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno, neu os hoffech gyflwyno cais am fwy na'r symiau a awgrymwyd yn yr arweiniad, a wnewch chi e-bostio tacklingpoverty@abertawe.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau'n ymwneud â chronfa COAST, e-bostiwch GrantiauPaCh@abertawe.gov.uk 

Dyddiadau cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Mercher 20 Tachwedd 2024.

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried.

Asesir pob cais yn erbyn y meini prawf uchod gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor a'r trydydd sector. Bydd y panel yn ceisio ystod amrywiol o weithgareddau hygyrch sy'n cynnig gwerth am arian ac sy'n denu cynulleidfaoedd newydd i brofiadau newydd.

Os nad oes digon o gyllid ar gael, ffefrir prosiectau sy'n ymwneud ag anghenion a dargedir - ardaloedd daearyddol a nodweddion gwarchodedig.

Mae penderfyniad y panel yn derfynol; ni chaiff apeliadau eu hystyried.

Meini prawf cyflwyno cais ac asesu

Caiff yr holl geisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf isod a bydd angen i ymgeiswyr arddangos y canlynol:

  • Statws sefydliadol / amcanion elusennol.
  • Bydd y cyllid yn ymdrin â meini prawf y gronfa ac yn diwallu anghenion a nodwyd.
  • Tystiolaeth o angen.
  • Hygyrchedd a chyfle cyfartal.
  • Dadansoddiad ariannol llawn o'r cyllid y cyflwynir cais amdano.
  • Gwerith am arian.

Dim ond ceisiadau gan grwpiau sy'n meddu ar y dystiolaeth ganlynol ac sy'n ei chyflwyno a ystyrir:

  • Dogfennau neu gyfansoddiad llywodraethu cyfredol.
  • Cyfrif banc busnes priodol.
  • Cyfrifon archwilliedig - neu os yw'n grŵp newydd, cyfriflenni banc cyfredol.
  • Polisïau Diogelu priodol - Diogelwch Plant, Oedolyn Agored i Niwed, anabledd a / neu unrhyw ofynion diogelu priodol eraill.
  • Polisïau Corfforaethol priodol - Cydraddoldeb, Y Gymraeg, rhai amgylcheddol (COAST yn unig).

Cysylltwch â Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rhestr uchod.

E-bost: scvs@scvs.org.uk
Rhiff ffôn: 01792 544400

Grant Gaeaf Llawn Lles 2024 / 2025 - COAST

Mae Cronfa COAST yn adeiladu ar rowndiau blaenorol COAST a'i rhagflaenwyr. Mae'n ceisio darparu gweithgareddau am ddim neu fforddiadwy i bobl sy'n preswylio neu'n cael eu cefnogi yn Abertawe.

Grant Gaeaf Llawn Lles 2024 / 2025 - Lleoedd Llesol Abertawe

Diben y cyllid yw helpu i ddarparu lleoedd diogel a chynnes yn y gymuned leol y gall pobl fynd iddynt i elwa o gysylltiadau cymdeithasol.

Grant Gaeaf Llawn Lles 2024 / 2025 - Cronfa Bwyd Gwyliau

Diben y cyllid yw helpu i ddarparu mynediad at fwyd yn ystod gwyliau ysgol y Nadolig a Hanner tymor y Gwanwyn i blant oedran ysgol a'u teuluoedd sy'n cael trafferthion o ran costau.

Grant Gaeaf Llawn Lles 2024 / 2025 - Cymorth Bwyd Uniongyrchol

Diben y cyllid yw cefnogi nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd ac ansicrwydd ynghylch bwyd drwy gryfhau mentrau bwyd cymunedol sydd eisoes yn bodoli yn Abertawe.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Tachwedd 2024