Toglo gwelededd dewislen symudol

Enwyd eich cyngor yn un o awdurdodau lleol gorau'r DU!

Enwyd Cyngor Abertawe'n un o gynghorau gorau'r DU mewn cynllun gwobrau nodedig.

LGC Awards Logo 2025

LGC Awards Logo 2025

Mae'r awdurdod wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori cyngor y flwyddyn yng ngwobrau LGC 2025

Gwnaeth stori Abertawe o waith trawsnewid dan arweiniad proffesiynol ar draws ei chymunedau a'r awdurdod ei hun argraff dda ar feirniaid y wobr. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'r cyflawniad hwn yn wych ar gyfer y cyngor ac Abertawe. 

"Diolch i bawb sydd wedi'n helpu i ennill y gydnabyddiaeth - o'r preswylwyr sy'n ein helpu i gyflwyno a gwella gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol i'r datblygwyr sy'n buddsoddi llawer yma, ac o'n partneriaid a'n haelodau ffyddlon i'n haelodau staff gweithgar. 

"Mae trawsnewidiad Abertawe'n gwella'r presennol ac yn cyflwyno dyfodol yr edrychwn ymlaen ato'n eiddgar." 

Mae llwyddiannau diweddar yn amrywio o weithrediadau cymunedol blaengar i drawsnewid y nenlinell yn sylweddol. 

Mae seremoni wobrwyo LGC yn ddigwyddiad pwysig ar galendr llywodraethau lleol, a disgwylir i'r seremoni wobrwyo ddigwydd yn Llundain ar 11 Mehefin 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mai 2025