Toglo gwelededd dewislen symudol

Gallai'r cyngor fabwysiadu isafswm cyflog staff uwchben y cyflog byw gwirioneddol

Gallai Cyngor Abertawe ddod y cyngor cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu isafswm cyflog staff o £10 yr awr.

£10 an hour announcement

Heddiw, argymhellodd ei gabinet llywodraethol y dylid cymeradwyo'r gyllideb i gefnogi'r cynnig isafswm cyflog hwn o £10 yr awr yng nghyfarfod cyngor llawn fis nesaf.

Os caiff ei gymeradwyo, byddai'n cael ei roi ar waith o 1 Ebrill eleni a byddai'n uwch na chyfradd cyflog byw gwirioneddol gwirfoddol y DU o £9.90.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae ein staff a'n gweithwyr allweddol wedi bod yn rhyfeddol drwy gydol y pandemig, yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl Abertawe bob dydd - o ddarparu gofal a chefnogaeth i sicrhau bod biniau'n cael eu casglu a phrosiectau mawr yn cael eu cyflwyno.

"Rwy'n wirioneddol falch ein bod wedi gallu gweithio gydag undebau llafur i gyrraedd y cam hwn a bydd yr ymgyrch hwn - os caiff ei gymeradwyo fis nesaf - yn codi cyflogau'n syth i'r rheini sydd â'r cyflogau isaf, gan sicrhau eu bod yn derbyn cyflog sy'n uwch na'r cyflog bwy gwirioneddol."

Meddai Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor, David Hopkins, "Rwyf am i'n gweithwyr ennill cyflog sy'n bodloni costau byw, nid isafswm y llywodraeth yn unig."

Meddai ysgrifennydd cangen y GMB Dorothy Gordon,  "Mae'r GMB yn falch y gallai'r cyngor cyn bo hir fod yn talu eu gweithwyr sy'n derbyn y tâl isaf isafswm cyflog o £10 yr awr. Rydym wedi bod yn trafod â'r awdurdod am 18 mis ar ran ein haelodau - a byddwn yn parhau i ymgyrchu drostynt."

Meddai ysgrifennydd UNISON, Chris Cooze, "Mae UNISON, fel yr undeb mwyaf yn yr awdurdod, wedi bod yn ymgyrchu am isafswm cyflog o £10 yr awr. Mae'n wych gweld bod Abertawe yn ceisio gosod y safon y gobeithiwn y bydd cynghorau eraill yng Nghymru yn ei dilyn."

Meddai Jason Strannigan, ysgrifennydd cangen Unite y cyngor, "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r cyngor i wobrwyo'r gweithwyr sy'n derbyn y tâl isaf gyda chyflog byw o £10. Byddai'r isafswm cyflog yn eu helpu gyda chostau byw cynyddol."

Llun: Arweinydd y Cyngor Rob Stewart a Dorothy Gordon o'r GMB, yn y canol yn y blaen, gyda - o'r chwith - Jason Strannigan (Unite), Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor Andrea Lewis, Susan Adams (GMB), prif weithredwr y cyngor Phil Roberts, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor David Hopkins a Christopher Cooze (Unison). Llun: CyngorAbertawe