10 Darn o Wybodaeth am Ras 10k Bae Abertawe Admiral
10 Darn o Wybodaeth am Ras 10k Bae Abertawe Admiral

Dyddiad ac amserau'r ras
Cynhelir y ras ddydd Sul 14 Medi 2025 a bydd y rasys yn dechrau ar yr amserau canlynol:
1k (7 oed ac iau) - 09:15
1k (8-11 oed) - 09:30
3k - 10:00
Cadair olwyn elît - 10:55
10k - 11:00
Ras y Masgotiaid - 11:10
Cyn eich ras, ewch draw i Mumbles Road
(what3words.com//faced.aware.notes) i gael eich lleoli yn eich llociau cychwyn yn seiliedig ar eich amser gorffen disgwyliedig.
Gwnewch yn siŵr eich bod yno o leiaf 10 munud cyn dechrau'r ras fel bod popeth yn mynd yn esmwyth.
Newidiadau Ffyrdd a Theithio
Mae'n well cyrraedd yn gynnar ar ddiwrnod y ras. Mae'r meysydd parcio'n tueddu i lenwi'n gyflym a gall traffig o gwmpas safle'r digwyddiad fod yn brysur.
Bydd newidiadau ffyrdd ar waith ddydd Sul 14 Medi rhwng 05:00 a 17:00. Am fanylion llawn, ewch i www.10kbaeabertawe.com/teithio. Disgwylir i'r traffig gynyddu o'r pwynt hwnnw, felly rhowch ddigon o amser i chi'ch hun i gyrraedd.
Gellir parcio am ddim yn y canlynol:
Maes Parcio'r Rec - what3words.com/chains.coach.acute
Cae Lacrosse Parc Singleton - what3words.com/blocks.deal.system
O flaen Neuadd y Ddinas ac wrth ei hochr - what3words.com/cove.slides.echo
Os yw'r rhain yn llawn, gallwch ddefnyddio Maes Parcio'r Gorllewin y Ganolfan Ddinesig fel maes parcio ychwanegol - what3words.com/play.stack.stem
Ydych chi'n defnyddio teclyn llywio lloeren? Teipiwch SA2 0AU i ddod o hyd i'r ffordd.
Bydd cerbydau brys yn cael blaenoriaeth bob amser yn ystod cyfnodau lle ceir newidiadau ffyrdd
Y ras
Bydd Pentref y Ras ar agor rhwng 08:00 a 16:00.
Bydd gan Bentref y Ras doiledau, stondinau bwyd a diod, a cherddoriaeth fyw.
Dyma'r lle perffaith i ymlacio, bwyta a dathlu'r ras!
Cyn y Ras:
Casglu Crysau T
Os ydych chi wedi dewis derbyn crys-t y ras, gallwch ei gasglu o'r babell crysau-t ar Faes y Rec:
Dydd Gwener 12 Medi: 12:00 - 20:00
Dydd Sadwrn 13 Medi: 09:00 - 18:00
Dydd Sul 14 Medi: 08:00 - 14:00
Cofiwch ddod â'ch taleb crys-t - mae ar waelod eich bib ar gyfer y ras. Rhoddir crys-t â'r maint y gofynnwyd amdano gennych ar adeg cofrestru; ni fyddwch yn gallu newid i faint gwahanol.
Yn ystod y ras:
Dylid pinio'ch rhif ras ar flaen eich crys a chofiwch lenwi'r wybodaeth feddygol ar y cefn. Cadwch eich rhif yn wastad - gan beidio â'i blygu neu ei dorri - a gwisgwch ef trwy gydol y ras.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn unrhyw gyfarwyddiadau gan staff y digwyddiad neu farsialiaid - maen nhw yno i helpu i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth (esgusodwch y jôc).
Gallwch ddod o hyd i orsaf ddŵr wrth gyrraedd 5k, diolch i'n partner hydradu, Princes Gate Mineral Water. Pan fyddwch wedi cael diod, rhowch eich potel wag yn y biniau ailgylchu a ddarperir.
Cymerwch gip ar reolau'r ras yma - www.10kbaeabertawe.com/rheolau
Y Llwybr:
Mae'r llwybr yn wastad ac y gyflym, ac mae'n dilyn arfordir Bae Abertawe, sy'n ei wneud yn berffaith ar gyfer rhedwyr a chefnogwyr.
Sylwer - Mae'r man troi wedi newid ychydig o flynyddoedd blaenorol. Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwirfoddolwyr a'r arwyddion cyfeiriol.
Hoffech chi gael cip ar lwybr y ras? Ewch i www.10kbaeabertawe.com/cwrs
Ar ôl y Ras:
Gofynnir i bob gorffennwr symud drwy'r twndisau ac allan ohonynt unwaith y maent wedi casglu eu medal, eu dŵr eu banana a'u bar protein. Bydd staff wrth law i helpu rhedwyr.
Sylwer - mae pob ras yn llawn, felly ni fyddwch yn gallu cofrestru ar y diwrnod.
Ymunwch â'n partner Lletygarwch, The Secret Bar & Kitchen ar gyfer eu barbeciw, a fydd yn dechrau am 10:00 ac yn cynnwys bwyd a cherddoriaeth fyw.
Gwylio
Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn wych i redwyr, ond mae hefyd yn ddiwrnod allan gwych i'ch teulu a'ch ffrindiau wrth iddynt eich cefnogi!
Mae croeso i chi ledaenu ar hyd y llwybr a chefnogi pawb. Bydd adloniant byw yn y mannau bloeddio a bydd stondinau bwyd a diod ger y llinell derfyn ac ym Mhentref y Ras.
Gellir dod o hyd i'r mannau bloeddio yn www.10kbaeabertawe.com/cwrs
Cymorth cyntaf a diogelwch
Bydd cymorth cyntaf a ddarperir gan Ambiwlans Sant Ioan ar gael ar hyd y cwrs, a bydd y brif orsaf ger y llinell derfyn. Os bydd angen help arnoch yn ystod y ras, rhowch wybod i'r marsial neu'r stiward agosaf atoch.
Cyn y ras, gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi'r manylion meddygol ar gefn eich rhif ras - mae'n bwysig. Hefyd, os ydych chi'n teimlo'n sâl (neu os ydych newydd fod yn sâl), mae'n well peidio â chymryd rhan. Eich iechyd yw'r peth pwysicaf!
Plant Coll
Os ydych chi'n cael eich gwahanu oddi wrth eich plentyn, peidiwch â phoeni - mae'r Man Plant Coll ger y Babell Wybodaeth ym Mhentref y Ras ar Faes y Rec (what3words.com/rated.labels.yard). Bydd ein tîm yno i helpu i ailuno teuluoedd yn gyflym ac yn ddiogel.
Lluniau / iTAB
Caiff lluniau o'r ras eu tynnu ar hyd y cwrs a byddant ar gael i'w prynu drwy https://photo-fit.photohawk.com/galleries/admiral-swansea-bay-10k-2025 ddeuddydd neu dridiau ar ôl y ras.
Beth bynnag yw eich rheswm dros redeg, gallwch ddathlu'r ras mewn steil trwy bersonoli'ch medal ras 10k Bae Abertawe Admiral gydag iTAB. Bydd yn cynnwys eich enw a'ch amser gorffen a bydd y mewnosodiad metel yn ffitio'n berffaith yn eich medal.
I archebu eich iTAB ymlaen llaw, mewngofnodwch i'ch cyfrif cofrestru ar gyfer y ras a dewiswch yr opsiwn i brynu iTAB - https://in.njuko.com/swansea-bay-10k?currentPage=select-competition
Arweiniad i'r ras
I ddarganfod mwy o wybodaeth am y cyfnodau cyn, yn ystod ac ar ôl y ras ynghyd â rhai cwestiynau cyffredin, ewch i www.10kbaeabertawe.com/Arweniad
Canlyniadau'r ras
Bydd canlyniadau'r ras ar gael yn dilyn y ras yn 10kbaeabertawe.com.
Diolch
Diolch i'n holl gyfranogwyr am barhau i sicrhau bod ras 10k Bae Abertawe Admiral yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr rasys, ac i'w cefnogwyr sy'n creu awyrgylch wych.
Ni allai Cyngor Abertawe gynnal y digwyddiad heb gefnogaeth ein noddwyr:
Ein Prif Noddwr Admiral, sydd wedi noddi'r digwyddiad ers 19 mlynedd - Meddai Lorna Connelly, Pennaeth Pobl cwmni Admiral, "Mae'n braf gweld y gymuned yn dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad mor wych yn Abertawe. O deuluoedd a gwirfoddolwyr yn dangos eu cefnogaeth i bob rhedwr sy'n paratoi ar gyfer y ras, pob lwc bawb!"
Ein Partner Hydradu, Princes Gate Mineral Water - Meddai Eloise, Rheolwr Brand, "Mae yfed digon o ddŵr drwy gydol y dydd yn bwysig ar gyfer egni, canolbwyntio a pherfformiad wrth ymarfer corff, fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos nad yw 4 allan o 5 o bobl yn yfed digon o ddŵr. Felly, rydym yn falch o gefnogi 10k Bae Abertawe Admiral eleni drwy helpu cyfranogwyr i yfed digon o ddŵr a hyrwyddo pwysigrwydd hydradu a gweithgarwch corfforol ar gyfer lles."
The Secret Bar and Kitchen am ddarparu lletygarwch
FRF Alfa Romeo am gyflenwi'r ceir arweiniol ar gyfer y digwyddiad
Ein Partner Cerbydau Days Rental