Toglo gwelededd dewislen symudol

Popeth y mae angen i chi ei wybod: Ras ..10k Bae Abertawe Admiral ddydd Sul yma

Bydd miloedd o redwyr yn cymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral y penwythnos hwn.

10k 2022

10k 2022

Bydd y 42fed ras 10k yn dechrau am 11am ddydd Sul yma a bydd miloedd o wylwyr yn gallu gweld tua 4,000 o redwyr yn cymryd rhan ynddi. Mae torfeydd yn debygol o ddechrau ymgasglu am oddeutu 8.30am.

Bydd nifer o rasys eraill yn digwydd hefyd, gan gynnwys y rasys 1k a 3k i  redwyr iau, ras i fasgotiaid a ras cadair olwyn 10k. Mae'r cyfle i gofrestru ar gyfer pob ras bellach wedi dod i ben ac ni chaniateir unrhyw gofrestriadau hwyr ar y dydd.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Yn ogystal â rhedwyr elît, bydd llawer o bobl eraill o bob oed yn rasio rhwng San Helen a'r Mwmbwls. Bydd awyrgylch hyfryd, cyfeillgar sy'n addas i'r teulu."

Diolchodd i breswylwyr a busnesau y gall y newidiadau ffyrdd y bwriedir iddynt gadw rhedwyr a gwylwyr yn ddiogel effeithio arnynt.

Diolchodd i noddwyr y digwyddiad Admiral, Princes Gate Mineral Water, The Secret Bar & Kitchen, Days Motor Group, ac Aldi.

Rhagor o wybodaeth: www.10kbaeabertawe.com

 

Teithio

Mae Cyngor Abertawe yn gofyn i redwyr a chefnogwyr gyrraedd yn gynnar gan fod meysydd parcio'n cael eu defnyddio gan lawer ac mae traffig yn cronni yn agos i brif faes parcio'r digwyddiad.

Bydd dulliau rheoli traffig ar waith, a bydd rhai ffyrdd ar gau o 5:30am. Bydd traffig yn dechrau cronni o'r amser hwn.

Gellir parcio am ddim ar y Rec ar bwys maes rygbi San Helen, Cae Lacrosse Parc Singleton ac o flaen ac wrth ochr Neuadd y Ddinas Bydd lleoedd parcio ychwanegol ar gael ym maes parcio gorllewin y Ganolfan Ddinesig. Caniatewch ddigon o amser oherwydd y cynnydd disgwyliedig mewn traffig. Ar gyfer peiriannau llywio lloeren, defnyddiwch y côd post SA2 0AU.

Newidiadau ffyrdd

 Bydd y newidiadau ffyrdd ar waith ddydd Sul yma

5.30am - 5pm.

  • Mumbles Road: Ar gau i'r ddau gyfeiriad o'i chyffordd â Guildhall Road South i'w chyffordd â Sketty Lane. Caniateir i geir adael y Rec i gyfeiriad y gorllewin (hynny yw: i gyfeiriad y Mwmbwls) o ganol dydd.

5.30am - 2.30pm.

  • Brynmill Lane: Ar gau i'r ddau gyfeiriad o'i chyffordd â Bryn Road i'w chyffordd â Mumbles Road
  • Guildhall Road South: Troi i'r chwith yn unig ar Oystermouth Road
  • Mumbles Road: I'r dwyrain (h.y. i gyfeiriad canol y ddinas) o'i chyffordd â Mayals Road a Sketty Lane, wedi'i chyfyngu i lôn sengl wrth i'r ras fynd yn ei blaen
  • Sketty Lane: Ar agor i draffig tua'r gorllewin (tuag at y Mwmbwls) tan 10.30am

10.30am - 1.30pm.

  • Mumbles Road: Ar gau i'r gorllewin o'i chyffordd â Sketty Lane i'w chyffordd â Mayals Road
  • Sketty Lane: Ar gau i gyfeiriad y de yn llwyr. Caniateir mynediad i ymwelwyr ag Ysbyty Singleton, Pwll Cenedlaethol Cymru, caeau chwarae'r Brifysgol a Phrifysgol Abertawe (drwy'r ysbyty)

10.45am - 1.30pm.

  • Mumbles Road: Ar gau i'r ddau gyfeiriad o'i chyffordd â Mayals Road a Fairwood Road.
  • Mumbles Road: Ar gau i gyfeiriad y gorllewin o'i chyffordd â Fairwood Road i'w chyffordd â Dunns Lane, y Mwmbwls.
  • Fairwood Road: Ar gau i gyfeiriad y de o'i chyffordd â Heathwood Road/West Cross Lane i'w chyffordd â Mumbles Road.

10.30am - 1.30pm.

  • Cyfyngir mynediad i'r sawl sy'n troi i'r chwith yn unig wrth i'r ras fynd yn ei blaen ar gyfer: meysydd chwarae Ashleigh Road, Ashleigh Road, Derwen Fawr Road, Mill Lane, Mayals Road, Alderwood Drive, Bethany Lane, Palmyra Court, Norton Avenue, Norton Road, Newton Road, Dunns Lane.
  • Cyfyngir ar fynediad a gadael wrth i'r ras fynd heibio ar gyfer: Prifysgol Abertawe, Llwynderw Drive, Heneage Drive, Oaklands Court, Lilliput Lane, Gulliver's Close, Huntington's Close, The Paddock, Fairwood Road.
  • Bydd blaenoriaeth i gerbydau brys ar bob adeg.

Amserau'r ras

1k (7 oed ac iau) - 9.15am; 1k (8-11 oed) - 9am; 3k - 10am; Cadair olwyn elît - 10.55am; 10k - 11am; Ras y Masgotiaid 11.10am

Y llwybr

Mae'r cwrs cyflym a gwastad yn dilyn ehangder Bae Abertawe - perffaith i redwyr a gwylwyr.  Map o'r cwrs a mannau bloeddio cymeradwyaeth - www.bit.ly/10k23map

Y ras

Mae angen i gyfranogwyr wneud eu ffordd i Mumbles Road lle cânt eu trefnu a'u cyfeirio i'r llociau cychwyn, yn seiliedig ar eu hamser gorffen rhagweledig. Dylai cyfranogwyr ymgasglu ar gyfer y ras o leiaf 10 munud cyn dechrau'r ras. Rhaid cysylltu'r rhifau ras wrth flaen y topiau rhedeg. Rhaid i redwyr lenwi'r ffurflen feddygol sydd ar gefn y rhif. Ni ddylid plygu na thorri rhifau ras.

Rhaid i redwyr ufuddhau i gyfarwyddiadau pob swyddog digwyddiad neu farsial cwrs. Darperir gorsaf dŵr mwnol gan bartner hydradu'r digwyddiad Princes Gate Mineral Waterar y pwynt 5k. Gofynnir i bob rhedwr roi eu poteli dŵr gwag yn y biniau ba ddarperir fel y gellir eu casglu a'u hailgylchu i greu potel eraill.

Gofynnir i bob gorffennwr symud drwy'r twndisau ac allan ohonynt unwaith y maent wedi casglu eu dŵr a'u medal.  Bydd staff wrth law i helpu rhedwyr.

Mae lleoedd ar gyfer pob ras yn llawn felly ni fyddwch yn gallu cofrestru i gael lle.

Gwylio

Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn wych i wylwyr. Gofynnir iddynt sefyll ar wasgar ar hyd y llwybr. Bydd adloniant byw yn y mannau bloeddio cymeradwyaeth a faniau/stondinau gwerthu bwyd a diod ger yr ardal orffen.

Cymorth cyntaf a diogelwch

Darperir cymorth cyntaf gan Ambiwlans Sant Ioan. Byddant ar hyd y llwybr a bydd ganddynt ganolfan yn yr ardal orffen. Dylai rhedwyr y mae angen eu help arnynt roi gwybod i'r marsial neu'r stiward agosaf am hyn. Cyn y ras, rhai i bob rhedwr lenwi ffurflen manylion meddygol sydd ar gefn ei rif ras. Ni ddylai cyfranogwyr redeg os ydynt yn teimlo'n anhwylus neu os ydynt newydd fod yn sâl Mae'r man plant coll yn y babell wybodaeth ym Mhentref y Ras ar y Rec.

Lluniau

Caiff lluniau o'r ras eu tynnu ar hyd y cwrs a byddant ar gael i'w prynu drwy 10kbaeabertawe.com ddeuddydd neu dridiau ar ôl y ras.

Canlyniadau'r ras

Bydd canlyniadau'r ras ar gael yn dilyn y ras yn www.10kbaeabertawe.com

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Medi 2023