Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd yn cymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral 2023

Roedd miloedd o redwyr a chefnogwyr wedi mwynhau 10k Bae Abertawe Admiral heddiw.

10k 2023

10k 2023

Rhedodd rhedwyr y brif ras i'r gorllewin o lan y môr ger y Rec yn San Helen, i'r Mwmbwls ac yna'n ôl ar hyd y prom i orffen ar Mumbles Road, ger y Rec.

Cynhaliwyd nifer o rasys eraill, gan gynnwys rasys iau 1k a 3k a Ras y Masgotiaid, lle enillodd enillydd y ras £100 ar gyfer elusen. Cymerodd 4,100 o bobl ran yn y rasys.

Mwynhaodd y cyfranogwyr a'r gwylwyr y pentref digwyddiadau gyda bwyd, diod ac adloniant.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies , "Diolch i bawb a ddaeth i redeg a gwylio.

"Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn rhan allweddol o'n calendr digwyddiadau blynyddol ac mae'n un o'r digwyddiadau gorau o'i fath yn y DU. Roedd awyrgylch cynnes a chyfeillgar i deuluoedd.

"Bydd y digwyddiad yn dychwelyd y flwyddyn nesaf ar 15 Medi, a bydd y cyfnod cofrestru yn agor ar 16 Hydref eleni."

Eleni oedd yr 17eg achlysur i Admiral noddi'r digwyddiad. Roedd y noddwyr eraill yn cynnwys Princes Gate Mineral Water, The Secret Bar & Kitchen, Aldi a Days Motor Group.

Meddai Lorna Connelly, Pennaeth Pobl cwmni Admiral, "Roedd hi'n wych gweld cynifer o bobl o alluoedd gwahanol yn cymryd rhan yn y digwyddiad arbennig hwn."

Canlyniadau - www.swanseabay10k.com

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Medi 2023