Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhowch gynnig arni! Cofrestru'n dechrau ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral 2023

​​​​​​​Mae preswylwyr Abertawe nad ydynt erioed wedi rhoi cynnig ar redeg mewn digwyddiad 10k yn cael eu hannog i roi cynnig arni eleni.

10k 2022

10k 2022

Gwahoddir rhedwyr newydd - yn ogystal â'r rheini sydd wedi rhedeg o'r blaen - i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral 2023.

Mae trefnwyr y ras, Cyngor Abertawe, eisoes wedi dechrau rhoi baneri newydd gyda'r neges 'Rhowch Gynnig Arni' i fyny o gwmpas y ddinas.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Sul, 17 Medi.

Dyma fydd y 17fed achlysur i gwmni Admiral noddi'r digwyddiad sydd, yn ogystal â'r 10k, yn cynnig rasys hwyl iau 1K a 3K, ynghyd â ras 10k i bobl mewn cadair olwyn a ras masgotiaid. 

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae miloedd o bobl yn gwylio'u ffrindiau yn rhedeg y ras 10k, yn dod i'w cefnogi yn y digwyddiad ac yna'n difaru peidio â rhoi cynnig arni eu hunain. Byddai'n wych i'r bobl hynny gofrestru eleni, ac mae ganddynt 7 mis o hyd i hyfforddi.

"Rydym wedi cael ymateb gwych i'n cynnig pris cynnar ac rydym yn disgwyl i'r galw am leoedd fod mor uchel ag y mae fel arfer." 

Meddai Rhian Langham, Pennaeth Pobl yn Admiral, "Rydym yn gyffrous o fod yn noddi 10k Bae Abertawe Admiral unwaith eto eleni ar ôl i filoedd o bobl ddod at ei gilydd y llynedd i gyrraedd eu nodau a chefnogi eu hanwyliaid."

I gadw'ch lle wrth y llinell gychwyn yn 2023 ewch i www.swanseabay10k.com.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023