Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd yn cymryd rhan yn 10k Bae Abertawe Admiral 2022

​​​​​​​Roedd miloedd o redwyr a chefnogwyr wedi mwynhau 10k Bae Abertawe Admiral heddiw.

Trainers

10k Winner

Gofynnwyd i'r holl gyfranogwyr fod yn ymwybodol o'r cyfnod galaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth y Frenhines. Cynhaliwyd distawrwydd un funud fel arwydd o barch.

Aeth digwyddiadau tebyg fel y Great North Run yn eu blaenau'r penwythnos blaenorol, fel y gwnaeth digwyddiadau chwaraeon eraill heddiw.

Yn ogystal âr brif ras 10k, cynhaliwyd sawl ras arall gan gynnwys y rasys 1k a 3k i'r rhai iau a ras gadair olwyn 10k.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn diolch i'r holl rai a ddaeth i redeg a gwylio ac a wnaeth hynny mewn modd llawn parch."

Bu'n rhaid cau sawl ffordd i sicrhau diogelwch rhedwyr a gwylwyr. Diolchodd y Cyng. Francis-Davies i bawb yr oedd y trefniadau cau ffyrdd wedi effeithio arnynt am eu dealltwriaeth.

Dyma'r 16eg achlysur i Admiral noddi'r digwyddiad.

Meddai Rhian Langham, Pennaeth Pobl yn Admiral, "Roedd yn wych gweld cynifer o bobl o wahanol alluoedd yn cymryd rhan yn ras eleni, a oedd yn ddigwyddiad gwych unwaith eto. Diolch enfawr i bawb a fu'n rhan o'r trefnu, y rhedeg a'r gwylio, yr oedd pob un ohonynt wedi dangos cymaint o barch ar yr adeg hon."

Canlyniadau: www.10kbaeabertawe.com

 

 

Close Dewis iaith