Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhedwyr 10k Bae Abertawe Admiral i gynnal un funud ddistaw

Bydd miloedd o redwyr yn cymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral y penwythnos hwn.

10k day 2021

10k day 2021

Disgwylir iddi gael ei chynnal ddydd Sul, 18 Medi, a gofynnir i redwyr a gwylwyr gofio fod pobl yn dal i alaru yn dilyn marwolaeth y Frenhines.

Bydd y distawrwydd un funud - a gyhoeddir ar y system sain - yn cael ei chynnal am 11am ar ddechrau'r brif ras.

Bwrwyd ymlaen â digwyddiadau tebyg fel y Great North Run y penwythnos diwethaf gyda cheisiadau tebyg i'r rheini a oedd yn rhan ohono i ddangos parch.

Disgwylir i ddigwyddiadau chwaraeon eraill, gan gynnwys rygbi, pêl-droed a chriced, gael eu cynnal yn y DU ddydd Sul yma.

Bydd 41ain ras flynyddol Abertawe ar lan môr Abertawe'n cychwyn am 11am ddydd Sul yma. Bydd miloedd o wylwyr yn gweld tua 4,500 o redwyr yn cymryd rhan

Mae torfeydd yn debygol o ddechrau ymgasglu am oddeutu 8.30am.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Ras 10k Bae Abertawe Admiral yw un o'r goreuon o'i bath yn y DU ac rwy'n gwybod y caiff ei chynnal eleni mewn ffordd llawn parch."

I gael rhagor o wybodaeth am 10k Bae Abertawe Admiral ac i weld a fydd y trefniadau cau ffyrdd - sy'n angenrheidiol am resymau diogelwch - yn effeithio arnoch chi, ewch i www.swanseabay10k.com/cy

Llun: 10k Bae Abertawe Admiral y llynedd.

Close Dewis iaith