Admiral wedi'i gadarnhau fel prif noddwr 10K Bae Abertawe am flwyddyn arall
Mae cwmni Admiral wedi'i gadarnhau fel y prif noddwr unwaith eto ar gyfer digwyddiad poblogaidd 10k Bae Abertawe pan fydd yn dychwelyd i'r ddinas y flwyddyn nesaf.
Mae Cyngor Abertawe, sy'n cyflwyno'r digwyddiad ar gyfer miloedd o redwyr bob blwyddyn, yn falch o gyhoeddi bod Admiral wedi estyn ei gefnogaeth ar gyfer 10K Bae Abertawe am flwyddyn arall.
Cynhelir ras 2025 yn y ddinas ddydd Sul 14 Medi pan ddisgwylir i filoedd o bobl redeg neu sefyll ar hyd llwybr y ras 10K ar hyd ehangder Bae Abertawe.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn denu miloedd o redwyr, y mae llawer ohonynt yn rhedeg dros elusen. Mae o fudd i elusennau lleol a hefyd i iechyd a lles pob cystadleuydd a'i nod yw ysbrydoli rhedwyr o bob gallu.
"Rydym wrth ein bodd fod Admiral wedi ymrwymo i gefnogi'r digwyddiad gwych hwn am flwyddyn arall. Roedd ras 2024 yn llwyddiant ysgubol, gyda thros 4,000 o bobl yn cymryd rhan ynddi, gan gynnwys plant yn y rasys iau, ac rydym yn hyderus y bydd digwyddiad 2025 yr un mor boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol."
Meddai Lorna Connelly, Pennaeth Pobl cwmni Admiral, "Rydym yn llawn cyffro ynghylch bod yn brif noddwr 10k Bae Abertawe Admiral unwaith eto ar gyfer 2025, ein 19eg flwyddyn yn ei chefnogi!
"Mae hi bob amser yn wych gweld cynifer o bobl o gymuned Abertawe yn dod ynghyd i gymryd rhan, gan gynnwys ein cydweithwyr ein hunain. Brysied y ras!"
Mae 10k Bae Abertawe Admiral a gynhaliwyd gyntaf ym 1981, wedi dod yn hynod boblogaidd, ac mae'n cynnig cwrs llawn golygfeydd ar hyd glan môr drawiadol y ddinas i redwyr profiadol a newydd-ddyfodiaid. Yn ogystal â'r brif ras, mae ras i athletwyr sydd mewn cadair olwyn, ras i fasgotiaid a rasys 3k ac 1k i blant.
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral 2025, y ras gadair olwyn a'r rasys iau www.10kbaeabertawe.com.