Dathlu 25 mlynedd o ragoriaeth chwaraeon
Cafodd chwaraewyr, gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a chlybiau chwaraeon eu dathlu neithiwr yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe, mewn cydweithrediad â Freedom Leisure.
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn Neuadd Brangwyn, lle roedd 500 o bobl yn bresennol i ddathlu cyflawniadau chwaraeon yn y ddinas yn 2024.
Cyflwynwyd mwy na 100 o enwebiadau ar draws 15 categori wrth i'r gwobrau ddathlu eu 25ain flwyddyn. Roedd y rhai hynny a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cynrychioli amrywiaeth eang o glybiau a gweithgareddau cymunedol.
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Unwaith eto, mae'r gwobrau hyn wedi dangos graddau'r doniau chwaraeon ledled y ddinas.
"Roedd yn fraint bod yn dyst i orfoledd y rhai hynny a oedd yn bresennol yn y digwyddiad ac yn galonogol gweld unigolion, timau a hyfforddwyr yn derbyn cydnabyddiaeth am eu cyfraniad at chwaraeon yn Abertawe. Mae tîm Chwaraeon ac Iechyd y cyngor yn estyn ei ddiolchgarwch i'r rhai hynny a enwebodd eu pencampwyr chwaraeon ar gyfer 2024.
"Mae'r enillwyr yn cynnwys gwirfoddolwyr a hyfforddwyr ymroddedig sy'n cyfrannu oriau di-rif y tu ôl i'r llenni, yn ogystal â thimau ac unigolion ymroddedig sy'n rhagori yn eu campau.
"Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gwneud cyfraniad hollbwysig a chadarnhaol at iechyd a lles pobl. Dyma'r rheswm pam mae'r cyngor yn parhau i fuddsoddi yn isadeiledd chwaraeon y ddinas mewn cydweithrediad â'n partneriaid, gan gynnwys hwb cyffrous gwerth miliynau i sglefrfyrddio a champau BMX, gan sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol fynediad cyfartal at gyfleusterau chwaraeon ledled y ddinas."
Enillwyr gwobrau:
Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn(a noddir gan ArvatoConnect)
Charley Davies
Gwirfoddolwr y Flwyddyn (a noddir gan John Pye Auctions)
Weixin Liu
Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn (a noddir gan Chwaraeon Cymru)
James Salter
Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn (a noddir gan Fae Abertawe)
Sophie Bevan
Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig (a noddir gan y Cynllun Hamdden Actif i Bobl 60+ oed)
Carima Heaven & Michael Thomas
Chwaraewr Iau'r Flwyddyn (a noddir gan Tomato Energy)
Lewie Jones
Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn (a noddir gan Tomato Energy)
Olivia Roberts
Tîm Ysgol y Flwyddyn (a noddir gan Goleg Gŵyr Abertawe)
Bishopston Comprehensive Under 13s Boys Football Team
Clwb neu Dîm Iau y Flwyddyn (a noddir gan Peter Lynn & Partners)
Judo Swansea Junior Team
Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn (a noddir gan Day's Motor Group)
Celtic Tri
Gwobr Annog Abertawe Actif (a noddir gan Gynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Abertawe)
Frenz Pickleball
Cyfraniad Oes i Chwaraeon (a noddir gan Freedom Leisure)
Keith Thomas & Karen Trussler
Chwaraewr Iau ag Anabledd y Flwyddyn (a noddir gan Stowe Family Law)
Zac Thomas
Chwaraewr ag Anabledd y Flwyddyn (a noddir gan Spartan Scaffolding Solutions)
Benjamin Pritchard
Chwaraewr y Flwyddyn (a noddir gan McDonald's)
Rachel Rowe
Bydd enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2025 yn agor yn ddiweddarach eleni. Gweler y wefan ar gyfer rhagor o wybodaeth: https://www.croesobaeabertawe.com/chwaraeon-ac-iechyd/