Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Newidiadau i derfynau cyflymder 20mya yn yr arfaeth

Gallai'r terfyn cyflymder ar nifer o ffyrdd yn Abertawe godi o 20mya i 30mya dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan y cyngor.

motorist car driver generic

Mae'r cyngor wedi cael mwy na 600 o ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus am ffyrdd yn newid yn ôl i 30mya, gan awgrymu 81 o leoliadau ar gyfer esemptiadau posib lle ceir terfyn cyflymder diofyn o 20mya.

Fodd bynnag, er nad oedd y rhan fwyaf yn bodloni meini prawf llym Llywodraeth Cymru ar gyfer esemptiadau, mae'r cyngor wedi nodi 17 o leoliadau ar ffyrdd a strydoedd o gwmpas y ddinas sydd yn bodloni'r rheolau ac a fyddant o bosib yn elwa o'r newid.

Mae'r rhain yn cynnwys Mayals Road, rhan o Carmarthen Road yn Llewitha, yr A48 rhwng Penllergaer a Phontlliw, Brynmill Lane a rhannau o Gors Avenue a Townhill Road.

Pan lansiodd Llywodraeth Cymru ei rheoliadau 20mya diofyn ym mis Medi 2023, roedd Abertawe eisoes wedi sicrhau mwy o esemptiadau i'r rheolau nag unrhyw gyngor arall fel y gellid cynnal y terfynau 30mya lle'r oedd yn bosib.

Nawr mae cynigion am 17 o gyfleoedd pellach i ddychwelyd i 30mya wedi'u cyhoeddi mewn cyfres o Orchmynion Rheoleiddio Traffig yr ymgynghorir â'r cyhoedd yn derfynol arnynt yn awr.

Yn unol â'r hyn a ddigwyddodd pan gyflwynwyd y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn wreiddiol, ariennir unrhyw newidiadau drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru ac nid treth y cyngor.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Hoffem ddiolch i'r cyhoedd, aelodau wardiau a rhanddeiliaid eraill am eu sylwadau a'u hadborth yn y broses hon, sydd wedi helpu i gyfeirio cynigion ar gyfer newid yn yr 17 o leoliadau.

"Cynhaliwyd yr adolygiad cyffredinol o'r ffyrdd a'r llwybrau hyn gan ddefnyddio canllawiau llym Llywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys ffactorau a oedd yn edrych ar nodweddion y ffordd, y cyfleusterau gerllaw iddi, ei chofnod diogelwch hanesyddol ac effaith amgylcheddol unrhyw newid."

Gorfodir terfynau cyflymder o hyd gan yr heddlu a Gan Bwyll. Fel arfer, bydd enillion unrhyw hysbysiadau cosb benodedig neu ddirwyon eraill yn mynd i Lywodraeth Cymru ac nid cynghorau.

I gael gwybod mwy am y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig a sut gallwch ddweud eich dweud, ewch i'r ddolen hon https://www.abertawe.gov.uk/grht. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 15 Ebrill 2025.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Mawrth 2025