Mae gwyliau'r haf yma ac mae yna lwyth o bethau i'w gwneud
Mae yna lwyth o bethau i'w gwneud yn Abertawe am ddim neu am gost isel dros wyliau'r haf.
#YmaIAbertawe # YmaIChiYrHafHwn
Cofiwch hefyd ar benwythnosau hir dros wyliau'r ysgol, gall yr holl deulu deithio am ddim ar y bws.
Mae yna hefyd fwy na 60 o ardaloedd chwarae mewn cymdogaethau ar draws y ddinas, felly mae'n debygol na fyddwch chi'n bell o un ohonynt.
Cymerwch gip ar y Mwmbwls ar ei newydd wedd; mae ardal chwarae newydd yno - a llawer mwy.
Dyma 21 syniad gwych arall i'ch helpu. Beth am eu hargraffu a'u rhoi ar yr oergell i'ch atgoffa?
- Theatr Awyr Agored,Castell Ystumllwynarth: 13 ac 14 Awst
- Amplitude, Amffitheatr: 16 ac 17 Awst
- Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, SA1 Abertawe: 4 - 7 Medi
- Ras 10k Bae Abertawe Admiral, Bae Abertawe: 14 Medi
- Lido Blackpill: mwynhewch hwyl yr haf ym mhwll hwyl ym Mae Abertawe sy'n berffaith i blant bach.
- Golff gwallgof: ewch i Erddi Southend neu Lyn Cychod Singleton am rownd unigryw o golff.
- Castell Ystumllwynarth:archwiliwch ei ystafelloedd a'i ragfuriau i ddarganfod ei hanes canoloesol a straeon o'r gorffennol.
- Llyn Cychod Singleton: mae ganddo fwy o elyrch, dreigiau ac uncyrn nag sydd gan 'Swallows and Amazons', ond mae'r pedalos hyn hefyd yn berffaith ar gyfer anturiaethau anhygoel. Gallwch hefyd fynd i weld ein dinosoriaid newydd.
- Trên Bach Bae Abertawe:dewch ar y trên bach i fwynhau taith olygfaol ar hyd y prom.
- Canolfan Dylan Thomas:cymerwch gip ar arddangosfa 'Dwlu ar y Geiriau', sy'n trafod hanes, gwaith ac etifeddiaeth Dylan.
- Oriel Gelf Glynn Vivian:ewch i oriel gelf gyffrous ac ysbrydoledig Abertawe gyda'i harddangosfa ddiweddaraf, Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain.
- Theatr y Grand Abertawe: mae theatr hirhoedlog y ddinas yn cynnal comedi, sioeau, cerddoriaeth a drama.
- Amgueddfa Abertawe: dyma'r amgueddfa hynaf yng Nghymru lle gallwch ddarganfod hanes Abertawe, ei phobl a'i lleoedd a gweld trysorau diddorol, gan gynnwys mymi.
- Llyfrgelloedd Abertawe: mae'n dathlu 150 mlynedd o wasanaeth gyda digwyddiadau a digon o lyfrau i'w benthyca a'u darllen.
· Cyfleusterau Sglefrfyrddio Newydd- ym Mharc Coed Bach ym Mhontarddulais a Pharc Melin Mynach yn ardal Gorseinon
· Llwybr cerdded newydd a gwellrhwng Rotherslade a Limeslade
· Gweithgareddau a digwyddiadau ar ddydd Mawrth a dydd Gweneri bobl ifanc yn y Cwtsh Cydweithio dros dro yn Sgwâr Dewi Sant drwy gydol gwyliau'r ysgol.
· Diwrnod Chwarae Cenedlaetholyn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 6 Awst
· Llwybr beicio a cherdded newydd a gwellar hyd Dyffryn Clun
· Llawer o weithgareddauyn ein canolfannau hamdden Freedom Leisure
· Gallwch ddefnyddio'r Llyfrgell Deganaupan fyddwch yn ymweld â'r traeth (ger The Secret Bar and Kitchen)