Toglo gwelededd dewislen symudol

Y ddinas ar y trywydd iawn i osod 300 o ddiffibrilwyr achub bywydau

Mae Abertawe ar y trywydd iawn i sicrhau bod 300 o ddiffibrilwyr wedi'u gosod mewn cymunedau ar draws y ddinas erbyn diwedd y flwyddyn.

Defibrillators going in to car parks

Mae 40 o ddiffibrilwyr wedi'u gosod yn ddiweddar ym meysydd parcio talu ac arddangos Abertawe, diolch i gyllid gan y cyngor.

Mae Cyngor Abertawe'n wedi ymuno â'r elusen Heartbeat Trust UK i osod 300 o ddiffibrilwyr sy'n hawdd eu cyrraedd ar draws ei holl wardiau, wrth i Abertawe geisio ennill teitl y ddinas gyntaf â digon o ddiffibrilwyr yn y DU.

 Meddai Dirprwy Arweinydd cyngor Abertawe, Andrea Lewis, sydd wedi arwain y prosiect ar gyfer y cyngor, "Mae'n Ddiwrnod Adfywio'r Galon y byd heddiw felly mae'n gyfle gwych i ddiolch i'n partneriaid sydd bellach yn agos iawn i gyflawni'n haddewid i osod 300 o ddiffibrilwyr ledled Abertawe.

"Rwy'n falch iawn bod y cyngor wedi gallu rhoi cefnogaeth ariannol i'r fenter hon sy'n achub bywydau."

 Mae pob diffibriliwr mewn blychau melyn amlwg sy'n golygu eu bod yn hawdd eu gweld mewn argyfwng. Gall preswylwyr ymgyfarwyddo â lleoliadau'r rhain yn eu cymunedau drwy fynd i https://www.defibfinder.uk/

 Meddai Henry Gilbert, Cadeirydd Heartbeat Trust UK, "Mae ataliad y galon sydyn y tu allan i'r ysbyty yn un o'r tri achos marwolaeth pennaf yn y DU a bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn Abertawe yn gwella'r gyfradd oroesi'n fawr.

Close Dewis iaith