Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyllid yn sicrhau 49 o ddiffibrilwyr achub bywyd ychwanegol

Bydd 49 o ddiffibrilwyr achub bywyd ychwanegol sy'n hawdd eu cyrraedd yn cael eu gosod mewn lleoliadau manwerthu mewn cymunedau ar draws Abertawe dros y misoedd nesaf.

defibrillators for Heartbeat Trust

defibrillators for Heartbeat Trust

Mae Cyngor Abertawe'n gweithio gyda'r elusen Heartbeat Trust UK i wella mynediad y cyhoedd i'r offer hanfodol hwn ac i ennill teitl y ddinas gyntaf â digon o ddiffibrilwyr yn y DU.

Mae'r cyngor wedi clustnodi dros £60,000 o arian grant er mwyn galluogi'r elusen i osod ac yswirio diffibrilwyr mewn lleoliadau â mynediad 24 awr yn y 36 ward o fewn y cyngor.

Bydd y rhain yn cynnwys peiriannau ychwanegol mewn lleoliadau manwerthu yng nghanol y ddinas, ar strydoedd mawr cymunedau gan gynnwys Treforys, Clydach, Gorseinon, Pontarddulais a Sgeti, a thu allan i siopau cymunedol neu dafarndai mewn lleoliadau mwy gwledig fel ardal Gŵyr.

Meddai'r Dirprwy Arweinydd, Andrea Rees, sydd wedi llywio'r fenter, "Mae Heartbeat Trust UK eisoes yn gwneud gwaith gwych gyda'n cymunedau yn Abertawe.

"Bydd y grant hwn yn sicrhau y gallwn osod y peiriannau hyn ar draws y ddinas er mwyn achub bywydau. Ein nod yw ennill teitl y ddinas gyntaf â digon o ddiffibrilwyr yn y DU, lle ni fydd unrhyw un yn bell o ddiffibriliwr."

Meddai Henry Gilbert, Cadeirydd Heartbeat Trust UK, "Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe i sicrhau bod gan y ddinas hon ddigon o ddiffibrilwyr, eu bod wedi'u lleoli'n strategol ym mhob cymuned, ac i gynyddu ymwybyddiaeth o'u lleoliad a rhoi hyfforddiant CPR/diffibrilwyr.

"Bydd y fenter hon yn sicr yn achub bywydau yn Abertawe."