Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o leoedd chwarae i wella ein parciau

Bydd pedair ardal arall yn Abertawe'n cael lleoedd chwarae newydd i blant neu ardaloedd chwarae wedi'u hadnewyddu fel rhan o becyn buddsoddi gwerth £2m gan Gyngor Abertawe.

Parc Victoria – siglenni hygyrch, sbringiau, amlchwarae.

Eleni bydd pob ward yn Abertawe'n derbyn o leiaf £36,000 i'w fuddsoddi mewn cyfarpar chwarae newydd neu i wneud atgyweiriadau i gyfleusterau presennol.

Gyda rhagor o arian yn cael ei ddisgwyl drwy gytundebau cynllunio cyfredol, cynghorwyr lleol yn defnyddio arian o'u cyllidebau amgylcheddol a chyfraniadau eraill, disgwylir i gyfanswm y buddsoddiad ar gyfer 2021 fod yn fwy na £2 filiwn.

Disgwylir i barciau ym Mhenllergaer, Llandeilo Ferwallt, Woodcote yng Nghilâ a Llangyfelach gael eu huwchraddio dros yr wythnosau nesaf i gynnwys amrywiaeth o gyfarpar chwarae, o siglenni a thrampolinau i wifrau sip a llithrennau.

Daw'r gwaith fel rhan o addewid gan Gyngor Abertawe i greu neu wella nifer o leoedd chwarae yn ein cymunedau wrth i'r ddinas ddod allan o'r pandemig.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ym Mharc Ravenhill a Llyn Cychod Parc Singleton a bydd cynlluniau'n cael eu cyhoeddi cyn bo hir ar gyfer Treforys, Mayhilll, Cwmbwrla a Pennard.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae lleoedd chwarae i blant yn rhan allweddol o'n cymunedau sy'n galluogi plant ifanc i gael hwyl a chwarae mewn amgylchedd diogel.

"Yn ystod y pandemig daeth lleoedd chwarae awyr agored yn hafan i blant ifanc a'u teuluoedd fwynhau'r awyr iach ac ymarfer corff yn ddiogel, ac roedd Cyngor Abertawe yno i gefnogi cymunedau.

 "Bydd yr arian a gytunwyd gennym fel rhan o'r gyllideb yn sicrhau bod y lleoedd chwarae hyn ar draws y ddinas yn cael eu huwchraddio ac yn rhoi cyfle i deuluoedd â phlant ifanc gael hwyl a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored iach am flynyddoedd i ddod."

Mae'r ddinas yn gartref i 86 o leoedd chwarae lle gall plant chwarae'n ddiogel a chael hwyl. Mae angen gwella rhai ohonynt gryn dipyn ac mae eraill wedi cael eu hadeiladu'n ddiweddar fel rhan o ddatblygiadau newydd fel adeiladau ysgol newydd.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Bydd pob ward yn Abertawe'n elwa o'r hyn rydym yn ei wneud a byddwn yn gweithio gydag aelodau ward lleol ym mhob cymuned i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y lleoedd chwarae hynny a fydd yn elwa o'r buddsoddiad ychwanegol hwn."

I gael rhagor o wybodaeth am leoedd chwarae yn eich cymuned, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/LleoeddChwarae 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021