Arweinwyr busnes yn cefnogi cynllun swyddfeydd newydd y ddinas
Mae dau arweinydd busnes yn Abertawe wedi cymeradwyo datblygiad swyddfeydd newydd yng nghanol y ddinas sydd wedi'i agor yn swyddogol yn ddiweddar.


Dywed Adam Gibbons a Carwyn Davies y bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin yn ategu cynlluniau eraill i ddenu mwy o ymwelwyr i ganol y ddinas a chreu mwy o wariant yno wrth hefyd ddiwallu'r angen am fwy o swyddfeydd o safon yn Abertawe.
Mae tri thenant eisoes wedi'u henwi ar gyfer y datblygiad - cwmni ariannol Futures First, darparwr gweithleoedd hyblyg IWG, a chwmni teithio a hamdden TUI.
Bydd gwaith gosod yn digwydd yn y datblygiad ar gyfer y tenantiaid hyn cyn i'r staff ddechrau gweithio yno.
Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe, yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a Llywodraeth Cymru drwy ei raglen Trawsnewid Trefi.
Amcangyfrifir bod y datblygiad, a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi, yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.
Rhagwelir y bydd y cynllun yn cael ei osod yn llawn yn ystod y misoedd sy'n dod wrth i drafodaethau barhau ar gyfer yr holl le sydd ar ôl yno.
Meddai Adam Gibbons, Rheolwr Canolfan Siopa'r Cwadrant, "Mae'r newid i siopa ar-lein yn golygu ei bod bellach yn anoddach nag erioed i fanwerthwyr ddenu'r math o niferoedd sydd eu hangen arnynt yn eu siopau i ffynnu, felly mae cynlluniau fel hyn sy'n denu mwy o ymwelwyr ac yn creu gwariant yng nghanol y ddinas i'w croesawu.
"Yn ogystal â helpu i gefnogi ein busnesau presennol, bydd nifer yr ymwelwyr ychwanegol yn golygu bod mwy o siawns o ddenu siopau a busnesau eraill i ganol dinas Abertawe yn y dyfodol i helpu i roi hwb i'r cynnig sydd eisoes yma."
Carwyn Davies yw Rheolwr Gyfarwyddwr Hacer Developments - y cwmni sy'n adeiladu datblygiad yr 'adeilad byw' newydd yn agos i gynllun 71/72 Ffordd y Brenin .
Bydd y cynllun sy'n cynnwys hen uned Woolworths a thŵr 12 llawr newydd - unwaith y caiff ei gwblhau'n ddiweddarach eleni - yn cynnwys cyfleuster addysgol, fflatiau preswyl, siopau, swyddfeydd, ac iard. Bydd hefyd yn cynnwys waliau a thoeon byw, ynghyd â phaneli solar ar y to, storfa fatris a gerddi.

Dywedodd Mr Davies, "Mae'r cyfuniad o'n cynllun â 71/72 Ffordd y Brenin a datblygiadau eraill sydd naill ai wedi'u cwblhau, yn parhau neu yn yr arfaeth ar gyfer Abertawe yn dangos bod y sectorau cyhoeddus a phreifat yn gweithio'n agosach nag erioed o'r blaen â'i gilydd gyda nod cyffredin o wneud canol y ddinas yn fwy bywiog.
"Bydd hyn yn arwain at filoedd yn fwy o bobl yn byw ac yn gweithio yng nghanol y ddinas, gan helpu i greu a diogelu swyddi, cefnogi busnesau, denu buddsoddiad newydd a sicrhau bod Abertawe'n ddinas flaenllaw ar gyfer arloesedd.
"Mae cael swyddfeydd o safon hefyd yn rhoi'r cyfleusterau angenrheidiol i fusnesau fel y gallant fuddsoddi ymhellach yn Abertawe a thyfu."
Mae cynllun 71/72 Ffordd y Brenin hefyd yn cynnwys neuadd ddigwyddiadau a mannau ar gyfer busnesau bwyd a diod.
Mae ganddo deras gwyrdd ar y to â golygfeydd dros Fae Abertawe hefyd, ynghyd â phaneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.