Troeon Heneiddio'n Dda a chartrefi a adeiladwyd gan brentisiaid yn cyrraedd rhestr fer gwobrau'r DU
Mae menter a grëwyd i annog pobl hŷn i fynd hwnt ac yma yn dilyn pandemig COVID er mwyn lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd a menter arall sydd wedi gweld y tai cyngor cyntaf ers cenhedlaeth yn cael eu hadeiladu yn Abertawe, gan roi cyfle i ddwsinau o brentisiaid ddysgu eu crefftau, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau mawreddog y DU.
Mae Cyngor Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Fenter Iechyd a Lles Orau a'r Tîm Gwasanaeth Gorau: Tai, Adeiladu a'r Gwasanaeth Adeiladau yng ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) eleni.
Y llynedd, lansiodd tîm ymgysylltu â'r gymuned y cyngor dro Heneiddio'n Dda wythnosol sydd bellach yn denu bron i 100 o gyfranogwyr yn rheolaidd ym Marina Abertawe bob dydd Iau.
Mae cyfranogwyr yn dweud bod y troeon wedi newid eu bywydau. Gallwch wylio fideo o'r hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud yma.
Mae'r cyngor yn adeiladu cartrefi ynni effeithlon newydd am y tro cyntaf ers cenhedlaeth gan ddefnyddio ei dîm gwasanaethau adeiladau mewnol i gyflawni'r prosiectau.
Mae gan Abertawe hanes blaenorol o ddatblygu prentisiaid, gan helpu mwy na 270 o bobl i ddysgu eu crefftau dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Adeiladwyd un pâr o fyngalos a gwblhawyd yn West Cross yn ddiweddar yn llwyr gan brentisiaid lle'r oedd hynny'n ymarferol bosib, gan roi profiad amhrisiadwy iddynt yn ogystal ag ymdeimlad enfawr o gyflawniad.
Gallwch ddarllen rhagor am y tai newydd yn West Cross yma.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Mae'r timau y tu ôl i'r mentrau hyn yn haeddu llongyfarchiadau mawr ac rwy'n hynod falch o welliannau a datblygiadau arloesol staff ar draws y cyngor wrth iddynt wasanaethu preswylwyr Abertawe."