Toglo gwelededd dewislen symudol

Taflenni i'w gwneud hi'n haws rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Bydd taflen newydd yn hyrwyddo'n ffyrdd gwahanol y gall preswylwyr Abertawe roi gwybod am ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei dosbarthu ledled y ddinas yn yr wythnosau i ddod.

Safer Swansea - anti-social behaviour leaflets

Safer Swansea - anti-social behaviour leaflets

Tîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am y daflen sy'n cynnwys gwefannau perthnasol, e-byst, rhifau ffôn a chodau QR.

Meddai'r Cydlynydd Diogelwch Cymunedol, Paul Evans, "Mae'r taflenni hyn yn siop dan yr unto ar gyfer rhoi gwybod am bob digwyddiad troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

"Maen nhw'n cynnwys manylion cyswllt pwysig ar gyfer sefydliadau partner allweddol Abertawe Mwy Diogel. Byddwn yn annog y cyhoedd i gadw copi yn y tŷ a fydd ar gael ar bob adeg."

Ychwanegodd y Cyng. Alyson Anthony, Aelod y Cabinet dros Les, "Mae'n bwysig iawn bod pobl mewn cymunedau lleol ar draws Abertawe yn rhoi gwybod am bob digwyddiad sy'n peri pryder.

"Mae ein hasiantaethau partner yn dibynnu ar wybodaeth o ran ble i grynhoi adnoddau.

"Mae Abertawe yn lle diogel i fyw, ac mae gan aelodau'r cyhoedd y cyfle'n awr i'w gwneud yn fwy diogel byth drwy'r dulliau adrodd hyn."

 

Close Dewis iaith