Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad pêl-droed difyr i hyrwyddo'r neges mannau diogel

Mae twrnamaint arbennig i bobl ifanc yn dechrau ddydd Gwener yn Abertawe i nodi uchafbwynt Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Anti-social behaviour awareness week football event

Anti-social behaviour awareness week football event

Mae pob ysgol o bob rhan o'r ddinas wedi'i gwahodd  i gofrestru timau ar gyfer y digwyddiad saith bob ochr yn Pure Football yn y Clâs.

Fe'i trefnwyd gan y bartneriaeth CMET a arweinir gan y cyngor sy'n gweithio i sicrhau  bod mannau a lleoedd diogel i bobl ifanc eu mwynhau.

Yn ogystal â'r cyffro ar y cae bydd gwahanol wasanaethau'n bresennol i gynnig amrywiaeth o gyngor diogelwch yn ogystal â chynrychiolwyr o glybiau chwaraeon yn Abertawe a fydd yn hybu'r gweithgareddau sydd ganddynt i'w cynnig.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ymgyrch genedlaethol sy'n tynnu sylw at faterion o gwmpas YG ac yn annog dioddefwyr i fod yn ymwybodol o'u hawliau.

Dydd Gwener yw diwrnod pobl ifanc a'r thema yw chwalu'r myth mai pobl ifanc yw prif gyflawnwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Gorffenaf 2023