Cwymp mawr mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas yn ystod gwyliau ysgol
Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer yr adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol dinas Abertawe yn ystod gwyliau haf yr ysgol eleni na nifer yr adroddiadau yn 2023.
Mae ffigurau'n dangos gostyngiad o 39.5% yn yr ardal sy'n cwmpasu canol y ddinas, y marina a'r traeth.
Yr haf hwn, lansiodd Heddlu De Cymru Ymgyrch Daylily a welodd staff ychwanegol ar ddyletswydd yn ystod adegau prysur ac ar ddyddiadau pwysig.
Roedd swyddogion yn gweithio'n agos gyda busnesau, yr heddlu, Cyngor Abertawe ac eraill i gynnal sesiynau ymgysylltu wythnosol i bobl ifanc a fu'n boblogaidd iawn.
Meddai Arolygydd Canol Dinas Abertawe Andrew Hedley, "Mae canlyniadau'r ymgyrch yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol eleni.
"Diolch i ymgyrch yr heddlu, gwelwyd staff ychwanegol yn gweithio yn ystod adegau prysur ac ar ddyddiadau pwysig.
"Yn ogystal, roedd y syniad o ddod â llawer o bartneriaid at ei gilydd ar ddiwrnod yr un yn ystod y 6 wythnos o wyliau yn syniad da iawn."
Drwy weithio gyda'r heddlu, aeth tîm Partneriaeth a Chyfranogaeth y Cyngor ati i gynnal digwyddiadau hamddenol ger hen ganolfan siopa Dewi Sant er mwyn darparu gweithgareddau a man diogel i bobl ifanc fynd iddo.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Roedd y digwyddiadau hyn yn llwyddiannus iawn a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'u trefnu."