Miloedd yn mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim dros yr haf
Roedd miloedd o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau am ddim neu â chymhorthdal yn ystod gwyliau haf yr ysgol diolch i gyllid gan Gyngor Abertawe.


Cyn i'r ysgolion cau ar gyfer yr haf, roedd clybiau, grwpiau a sefydliadau eraill yn gallu gwneud cais am grantiau gan gronfa COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd) sydd hefyd yn cefnogi gweithgareddau i bobl dros 50 oed.
Roedd dros 140 yn llwyddiannus ac mae wedi gweld amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys chwaraeon ac iechyd, lles, yr amgylchedd a chadwraeth, TGCh, gweithdai creadigol a chrefftau, cerddoriaeth, dawns a drama.
Mae tua 20,000 o blant, pobl ifanc a theuluoedd, yn ogystal â phobl dros 50 oed, wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau o ganlyniad i hyn.
Roedd rhai digwyddiadau hefyd yn cynnwys bwyd am ddim ac roeddent yn rhan o'r 66,000 o'r prydau a ddarparwyd i blant a phobl ifanc yn Abertawe yn ystod gwyliau'r ysgol diolch i gyllid gan y cyngor.
Roedd Cyngor Abertawe wedi rhoi ei becyn cefnogaeth fwyaf erioed ar waith i helpu teuluoedd yn ystod gwyliau'r haf, ac roedd hynny hefyd yn cynnwys teithio ar fysys am ddim ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun.
Meddai Aelod Cabinet Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Rydw i wedi gweld y gwahaniaeth y mae'r cyllid hwn wedi'i wneud yn fy nghymuned gyda'r clybiau brecwast a chinio ym Mhafiliwn Parc Jersey a'r diwrnodau hwyl i'r teulu a gynhaliwyd yn ystod y gwyliau."