Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin ynghlyn Adfywio Abertawe

Felly, beth yw hyn i gyd?

Mae Adfywio Abertawe'n ymwneud â'r cyngor yn ceisio penodi partner datblygu o'r sector preifat i barhau â'r gwaith o adfywio'r ddinas, gan adeiladu ar yr holl waith da a wnaed hyd yn hyn. Mae Adfywio Abertawe'n derm sy'n dod â saith safle yn y ddinas sy'n eiddo i'r cyngor at ei gilydd. Rydym am ddatblygu pob un yn ei ffordd ei hun wrth i ni weithio i wella'r ddinas i bawb sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yma ac yn ymweld â hi. Efallai y byddwn yn cynnwys safleoedd eraill yn y cynllun wrth iddynt ddod ar gael. Mae'n brosiect enfawr a fydd yn cael ei ariannu gan y sector preifat a'i gyflwyno fesul cam dros y ddau ddegawd nesaf.

 

Onid casgliad arall o luniadau pensaer a fydd byth yn cael ei gyflwyno yw hyn?

Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn cael cipolwg ar yr hyn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer ei ddinas - a byddwn yn parhau i wneud hynny. Cynhyrchom argraffiadau arlunydd ar gyfer cynlluniau allweddol fel Ffordd y Brenin a Bae Copr - ac mae'r cynlluniau hynny'n cael eu cyflwyno.

 

A fydd y cyhoedd yn cael dweud eu dweud am hyn?

Bydd! Bydd pob cynllun unigol yn y portffolio Adfywio Abertawe - gan gynnwys safle'r Ganolfan Ddinesig, safle St Thomas a safle Gogledd Abertawe Ganolog - yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a phroses gynllunio ffurfiol. Rydym yn eich annog i gymryd rhan a manteisio ar bob cyfle i ddweud eich dweud, yn union fel y byddech wedi gwneud mewn ymgynghoriadau diweddar ar brosiectau fel Bae Copr, Sgwâr y Castell a hwb cymunedol canol y ddinas sydd wedi'i gynllunio ar gyfer hen adeilad BHS/What?

 

O ble y mae'r arian yn dod i adeiladu'r holl brosiectau newydd hyn?

Y sector preifat - fel rhan o drefniadau a wnaed gan Urban Splash a'u partneriaid, gydag arolygiaeth y cyngor. Yn fyr, y cyngor sy'n darparu'r tir a'r datblygwyr sy'n darparu'r arian. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n gilydd ar syniadau ac yn eu mireinio fel rhan o ymgynghoriad â'r cyhoedd er mwyn eu cyflwyno. Efallai y bydd angen swm cymharol fach o arian i lenwi'r bwlch; efallai bydd y cyngor yn helpu i ddod o hyd i ffynonellau ariannu ar gamau cynnar y prosiectau.

 

Pam y mae angen i Abertawe wneud y newidiadau hyn?

Rydym am wella rhannau o'r ddinas a denu cyfleoedd newydd i bobl leol. Mae syniadau cychwynnol Adfywio Abertawe'n rhan o raglen adfywio gwerth £1bn y cyngor, a fydd yn gwneud y ddinas yn ardal lle mae pobl am weithio, byw astudio a threulio amser rhydd o ansawdd. Dechreuir y rhaglen gyda chynllun £135m Bae Copr, sydd bron â'i gwblhau ac a fydd yn rhoi cyfleoedd busnes, hamdden a phreswyl i bobl leol. Gerllaw mae miloedd ar filoedd o bunnoedd yn cael eu buddsoddi gan y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mewn unrhyw ddinas, mae'n bwysig cael gweithgarwch sector preifat i ddenu creadigrwydd a bywiogrwydd.

 

Pryd y gallwn ddisgwyl i hyn i gyd ddigwydd?

Prosiect tymor hir yw Adfywio Abertawe a gaiff ei gyflwyno fesul cam dros 20 o flynyddoedd o bosib. Ni chaiff yr holl agweddau eu cyflwyno ar yr un pryd - nid yw hynny'n ymarferol. Gallwch ddisgwyl gweld y cynlluniau unigol yn dechrau, yn datblygu ac yn cael eu gorffen ar adegau gwahanol.

 

Pa safleoedd sy'n cael eu datblygu?

Mae saith safle yn y portffolio ar hyn o bryd - a gallai fod rhagor i ddod wrth iddynt ddod ar gael. Mae'r saith safle'n cynnwys safle'r Ganolfan Ddinesig, safle glan yr afon St Thomas, Gogledd Abertawe Ganolog, safle 2.8 erw ger yr Hwylbont sy'n croesi'r afon Tawe i SA1, safle 1.3 erw yn y marina, ger adeilad yr arsyllfa, safle un erw ar Stryd Rhydychen, lle mae maes parcio bach ar hyn o bryd, a safle 22 erw Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, i adeiladu ar y gwaith gwella sydd eisoes yn cael ei wneud yno.

 

Sut dewiswyd Urban Splash fel partner datblygu'r cyngor?

Cynhaliom broses gaffael fyd-eang, a lansiwyd y llynedd, a denwyd nifer o gynigion gwych gan bartneriaid posib o safon.  Gofynnwyd i bob un ohonynt gynnig syniadau cychwynnol ar dri safle - y Ganolfan Ddinesig, safle glan yr afon St Thomas a safle Gogledd Abertawe Ganolog. Roedd Urban Splash wedi dal ein sylw oherwydd eu syniadau creadigol ar gyfer y safleoedd hynny, a'u profiad gwych. Gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanynt drwy eu gwefan - www.urbansplash.co.uk.

 

Felly beth gallwn ni ei ddisgwyl nesaf?

Rôl Urban Splash yn awr yw gweithio gyda'r cyngor - ac yn agos gyda'r cyhoedd - i ddatblygu'r syniadau cychwynnol maent eisoes wedi'u cyflwyno ar gyfer y tri safle. Byddwn yn rhoi'r holl wybodaeth i chi wrth i bethau ddatblygu - fel rydym wedi'i wneud gyda Bae Copr, Ffordd y Brenin a phrosiectau parhaus fel 71-72 Ffordd y Brenin, adeilad Theatr y Palace, Sgwâr y Castell a Wind Street.

Close Dewis iaith