Toglo gwelededd dewislen symudol

Sesiynau am ddim i ddathlu Wythnos Addysg Oedolion

Bydd sesiynau rhagflas am ddim yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf, sy'n cynnwys ysgrifennu creadigol, TG i ddechreuwyr, gwneud gemwaith er lles, garddio a gwneud cawl wrth i Abertawe ddathlu Wythnos Addysg Oedolion.

Adult learner generic from Adobe

Gwasanaeth Gydol Oes y cyngor sydd wedi trefnu'r rhaglen a bydd popeth y mae ei angen ar breswylwyr yn cael ei ddarparu, felly'r cyfan y mae angen iddynt wneud yw cadw lle neu gallant alw heibio ar y diwrnod.

Bydd dwy sesiwn ddydd Llun 15 Medi. Rhwng 10.30am a 12pm, gall cyfranogwyr ymarfer eu sgiliau ysgrifennu fel rhan o sesiwn Ysgrifennu Creadigol yn Llyfrgell Cilâ. Rhwng 11am ac 1pm, cynhelir sesiwn Gwneud Gemwaith er Lles yng Nghanolfan Adnoddau Ar Waith Portmead.

Am 11am ddydd Mawrth, bydd cyfle i breswylwyr gwrdd yn The Secret i dreulio ychydig oriau ymlaciol yn cerdded ac yn creu darluniau hardd o natur a'r dirwedd ar draeth Abertawe gydag un o diwtoriaid y gwasanaeth.

Ddydd Mercher, bydd cyfle i bobl roi cynnig ar arddio cyn dysgu sut i wneud cawl blasus ac iachus ar gyllideb rhwng 11.30am ac 1pm yng nghanolfan Cymunedau am Waith a Mwy Bôn-y-maen ar Caernarvon Way. Hefyd ddydd Mercher, rhwng 1pm a 3pm yn yr ARC, bydd sesiwn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, sy'n rhoi gwybodaeth i unigolion ar sut i adnabod arwyddion o broblemau iechyd meddwl, hyrwyddo ymwybyddiaeth a lleihau stigma.

I orffen, i'r rhai ohonoch sy'n chwilio am gymorth TG, gallwch ymuno â sesiwn TG i'r Dihyder yn yr ARC ddydd Gwener rhwng 11.30am a 1.30pm.

Ffoniwch 01792 637101 i gadw lle ar gyfer unrhyw un o'r sesiynau hyn neu galwch heibio ar y diwrnod.

Gallwch bellach gofrestru ar gyfer dosbarthiadau tymor yr hydref y gwasanaeth.

Mae digon o ddosbarthiadau ar gynnig, gan gynnwys Sbaeneg i Ddechreuwyr ar fore Mercher yn yr ARC, a dosbarthiadau TG mewn llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol ledled Abertawe.

I'r rhai y mae'n well ganddynt ddysgu ar-lein, mae dosbarthiadau gitâr i bob lefel a dosbarth iwcalili i'r rhai sydd am wella eu sgiliau, yn ogystal â dosbarthiadau arlunio neu baentio i ddechreuwyr llwyr, ochr yn ochr â dosbarthiadau celf ddigidol a GarageBand.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol i'r rhai sydd am wella eu sgiliau mathemateg a Saesneg.

Gallwch gofrestru ar-lein nawr - mae'r dosbarthiadau TG a Sgiliau Hanfodol am ddim, ac mae'r dosbarthiadau eraill yn costio £40 yn unig am 10 wythnos.

Ewch i:  https://www.abertawe.gov.uk/cyrsiauDysguGydolOes

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Medi 2025