Rhaglen lawn i ddathlu Wythnos Addysg Oedolion
Bydd rhaglen lawn o sesiynau rhagflas am ddim ar gael mewn lleoliadau ledled Abertawe i ysbrydoli pobl i ennill sgiliau newydd fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion.


Rhwng dydd Llun 19 Medi a dydd Gwener 23 Medi, bydd y tîm o Wasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Abertawe yn ardal Gardd y Farchnad ym Marchnad dan do Abertawe.
Byddant yn rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar baentio gyda dyfrlliwiau, ffotograffiaeth ddigidol, caligraffeg, gwniadwaith a ffeltio a bydd arddangosiad coginio hefyd.
Hefyd ar y dydd Gwener hwnnw, bydd cyfle i gael cip ymlaen llaw ar gwrs ysgrifennu creadigol newydd sbon yn Llyfrgell Gorseinon, a fydd yn ddechau am 10.30am.
Bydd y Tîm Dysgu Gydol Oes yn ymuno â diwrnod hwyl i'r teulu o 11am i 3pm ar feysydd chwarae Pen-lan ddydd Sadwrn, 24 Medi.
Bydd dathliadau Wythnos Addysg Oedolion Abertawe'n diweddu mewn digwyddiad byw gwych rhwng 11am a 4pm ddydd Sul 25 Medi yn Sgwâr y Castell.
Bydd hyn yn cynnwys llawer o berfformiadau a rhagflasau.
Bydd rhaglen arbennig o ddosbarthiadau Dysgu Gydol Oes yn ailgychwyn ar ddiwedd mis Medi a gellir cofrestru amdanynt o ganol mis Medi.
Mae'r amrediad enfawr o gyrsiau i'w gweld yn www.abertawe.gov.uk/dysgugydoloes