Toglo gwelededd dewislen symudol

Penodi arbenigwyr i gynghori ar waith corff rhanbarthol

Mae nifer o arbenigwyr o'r sector preifat wedi cael eu penodi i gynghori corff rhanbarthol sydd â'r nod o wella de-orllewin Cymru ar gyfer preswylwyr a busnesau.

Business meeting room

Business meeting room

Bydd yr arbenigwyr, sy'n cynrychioli sectorau trafnidiaeth, gweithgynhyrchu, ynni ac adfywio trefol, ar gael i gynghori Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru (SWWCJC).

Mae'r SWWCJC, a sefydlwyd ym mis Ionawr 2022, yn cynnwys arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr awdurdodau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Sir Benfro.

Bydd yr SWWCJC yn cyflwyno gwelliannau ym meysydd megis datblygu economaidd, ynni, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir ledled de-orllewin Cymru. 

Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru (SWWCJC), "Rydym am drawsnewid de-orllewin Cymru fel y bydd yn un o'r rhanbarthau mwyaf bywiog, gwyrdd a chysylltiedig yn y DU.

"Mae hyn yn bwysig er mwyn denu rhagor o fuddsoddiad, creu rhagor o swyddi â thâl uwch i bobl leol a rhoi'r cyfle gorau posib i'n busnesau lwyddo.

"Rydym yn cydnabod y bydd arweiniad gan ein harbenigwyr o'r sector preifat yn hollbwysig er mwyn cyflawni ein hamcanion, felly mae'n hynod galonogol bod cynifer o weithwyr proffesiynol o'r radd flaenaf bellach wedi gwirfoddoli i neilltuo amser a rhannu eu harbenigedd er lles y rhanbarth."

Ceir rhagor o wybodaeth am Fwrdd Cynghori'r Sector Preifat yma.

Cynhelir cyfarfod cyntaf y bwrdd ar ddechrau 2025.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Rhagfyr 2024