Menter Heneiddio'n Dda bellach yn cefnogi 500 o bobl yr wythnos
Mae menter sydd â'r nod o annog pobl hŷn i fynd o le i le, cyfathrebu a lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd yn parhau i gynyddu o ran poblogrwydd.
Mae gweithgareddau Heneiddio'n Dda Cyngor Abertawe bellach yn cefnogi o gwmpas 500 o breswylwyr yr wythnos, gyda gweithgareddau rhad neu am ddim.
Maent yn cynnwys troeon wythnosol, boules, prynhawniau ffilm, bowlio, côr, cwis a chyfarfodydd cymdeithasol er mwyn cael paned a sgwrs.
Nawr mae'r gwasanaeth sy'n cael ei redeg gan y Tîm Ymgysylltu â'r Gymuned yn cynnal hyd yn oed mwy o weithgareddau gyda'n hasiantaethau partner allweddol yr haf hwn, gan gynnwys grwpiau cerdded ychwanegol ar ddydd Llun a dydd Gwener a sesiynau meddylfryd cadarnhaol ar ddydd Mawrth.
Mae llawer mwy o weithgareddau am ddim ar gyfer pobl 50 oed ac yn hŷn yn cael eu cynnal gan elusennau a phartneriaid, diolch i fenter COAST (Creu Cyfleoedd ar draws Abertawe Gyda'n Gilydd) y Cyngor a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Er mwyn cofrestru ar gyfer cylchlythyr Heneiddio'n Dda ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/dros50
Er mwyn gweld calendr dyddiol sy'n cynnwys holl ddigwyddiadau COAST ar gyfer pobl 50 oed ac yn hŷn, ewch i:https://www.abertawe.gov.uk/COAST50calendr