Toglo gwelededd dewislen symudol

Gŵyl Traeth Heneiddio'n Dda yn cynnig prynhawn o gerddoriaeth a hwyl am ddim

Bydd prynhawn o gerddoriaeth, hwyl a haul, gobeithio, am ddim, yn cael ei gynnal fis nesaf wrth i'r Ŵyl Traeth Heneiddio'n Dda ddychwelwyd ddydd Sadwrn 12 Awst.

Beach at the Secret in Swansea

Beach at the Secret in Swansea

Roedd digwyddiad y llynedd a drefnwyd gan Gyngor Abertawe a'i bartneriaid yn llwyddiant ysgubol a daeth cannoedd o bobl iddo.

Mae eleni'n addo bod yn well byth gyda'r digwyddiad yn dechrau am 11am ar y traeth ger The Secret Bar and Kitchen gyferbyn â chae rygbi a chriced San Helen.

Bydd perfformiadau cerddorol byw ar yr awr o ganol dydd tan 5pm, gan gynnwys y Côr Heneiddio'n Dda a bydd gweithgareddau ar y traeth a stondinau gwybodaeth hefyd.

I gael y diweddaraf ar yr holl weithgareddau heneiddio'n dda cymorthdaledig neu am ddim yn Abertawe drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr yn: https://www.abertawe.gov.uk/ebostheneiddiondda

Close Dewis iaith