Toglo gwelededd dewislen symudol

Artistiaid yn helpu i danio arddangosfa newydd yng nghanol y ddinas

​​​​​​​Mae Phillippa Walter a Leila Bebb o Abertawe ymhlith yr artistiaid sy'n serennu mewn arddangosfa deithiol sydd newydd gyrraedd canol y ddinas.

Leila Bebb

Leila Bebb

Arddangosir eu gwaith yn sefydliad Oriel Gelf Glynn Vivian y cyngor, ynghyd â gwaith artistiaid dawnus eraill o Gymru.

Maent wedi dod ynghyd ar gyfer arddangosfa gwobr gelf Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC), sef Aildanio, a gynhelir yn yr oriel y gellir cael mynediad am ddim ati tan 5 Tachwedd.

Mae'r ddwy ohonynt yn cynnal gweithdai cyhoeddus am ddim fel rhan o gyfnod yr arddangosfa yn yr oriel, gan gynnwys gweithdy gan Leila ar 28 Hydref. Cynhaliwyd gweithdy Phillippa ar 30 Medi.

Meddai Phillippa, "Mae'r arddangosfa hon wedi cael ymateb da iawn mewn lleoliadau eraill yng Nghymru dros y 10 mis diwethaf a dwi'n gobeithio y bydd pobl yn fy ardal leol yn ei mwynhau."

Meddai Leila, "Mae'n wych bod yn rhan o Aildanio a bod cynulleidfa mor fawr yn gweld fy ngwaith - a gallu cynnal gweithdy tecstilau yn Oriel Gelf Glynn Vivian."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliot King, "Mae'n wych gweld Phillippa a Leila yng nghwmni mor dda. Mae'r arddangosfa hon yn atyniad arall o safon yn Oriel Gelf Glynn Vivian."

Meddai swyddog celfyddydau gweledol Celfyddydau Anabledd Cymru, Alan Whitfield, "Mae'r arddangosfa'n amlinellu amrywiaeth eang o gelfweithiau gwych gan aelodau CAC."

Ariennir Aildanio gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae'n cynnwys 25 o ddarnau o waith gan artistiaid anabl sy'n byw yng Nghymru.

Dewiswyd y gwaith o dros 100 o gyflwyniadau o ymatebion creadigol i foment o aildanio.

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul rhwng 10am a 4.30pm.

Llun: Leila Bebb