Toglo gwelededd dewislen symudol

​​​​​​​Gobaith newydd i ddyfodol Maes Awyr Abertawe

​​​​​​​Mae gwaith tuag at ddyfodol mwy disglair ar gyfer Maes Awyr Abertawe wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Light Aeroplanes

Light Aeroplanes

Mae sgyrsiau a ysgogwyd gan Gyngor Abertawe fel perchennog tir wedi arwain at newid gweithredwr y cyfleuster ar unwaith.

Mae'r lesddeiliad wedi cytuno i ildio ei brydles; mae lesddeiliad newydd wedi cytuno i reoli'r cyfleuster ar Gomin Fairwood dros dro.Yn ystod yr amser hwnnw, bydd y maes awyr yn parhau i weithredu - a bydd y cyngor yn cynnal proses i ddod o hyd i denant tymor hir.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae ein sgyrsiau llwyddiannus am y mater cymhleth hwn yn golygu ein bod bellach mewn sefyllfa i benodi lesddeiliad newydd dros dro, sef Swansea Airport Stakeholders Alliance. Mae aelodau'r grŵp yn awyddus i sicrhau bod y maes awyr yn llwyddo."

Meddai David Hopkins, Cyd-ddirprwy Arweinydd y Cyngor, "Byddwn yn dechrau chwilio am ateb tymor hir drwy broses dendro gystadleuol. Bydd y grŵp yn cael y cyfle, ar y cyd ag eraill, i gyflwyno cynnig drwy'r broses honno. Bydd cyfleoedd i fuddsoddi ym Maes Awyr Abertawe yn y dyfodol."

Cyngor Abertawe yw landlord Maes Awyr Abertawe. 

Bu nifer o broblemau gyda'r tenant, Swansea Airport Ltd (SAL), dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain wedi arwain at roi terfyn ar y brydles bresennol.

Er mwyn sicrhau bod y cyfleuster yn aros ar agor, bydd y grŵp yn rheoli'r maes awyr dros dro ar ôl i SAL ymadael ag ef, gan sicrhau proses drosglwyddo hwylus.

Nid yw'r cyngor yn rhagweld unrhyw gostau ychwanegol i'r trethdalwr a bydd y maes awyr yn aros ar agor.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Gorffenaf 2024