Toglo gwelededd dewislen symudol

Pennod newydd yn dechrau ar gyfer Maes Awyr Abertawe

Mae gwaith tuag at ddyfodol mwy disglair ar gyfer Maes Awyr Abertawe wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw.

Airport leaseholder Bob Oliver with council leader Rob Stewart

Airport leaseholder Bob Oliver with council leader Rob Stewart

 

Mae'r gweithredwr newydd, Swansea Airport Stakeholders' Alliance, wedi dechrau gwaith yn y cyfleuster heddiw yn dilyn sgyrsiau lefel uchel â pherchennog y tir, Cyngor Abertawe.

 

Mae Swansea Airport Stakeholders' Alliance wedi cymryd cyfrifoldeb am y cyfleuster ar Gomin Fairwood dros dro, ar ôl i'r lesddeiliad blaenorol gytuno i ildio ei brydles. 

 

Bydd y maes awyr yn parhau i weithredu a bydd y Cyngor yn dechrau ar y broses o ddod o hyd i denant tymor hir yn fuan.

 

Meddai Arweinydd y Cyngor Rob Stewart, "Rydym yn gyffrous iawn bod y grŵp yn gweithredu fel lesddeiliad newydd dros dro. Mae wedi dechrau cynnal y maes awyr ac mae ei aelodau'n awyddus i lwyddo."

 

Meddai Dirprwy Arweinydd ar y cyd y Cyngor David Hopkins, "Byddwn yn dechrau chwilio am ateb tymor hir drwy broses dendro gystadleuol. Bydd y grŵp, ynghyd ag eraill, yn cael y cyfle i gyflwyno cynnig yn ystod y broses honno. Bydd cyfleoedd i fuddsoddi ym Maes Awyr Abertawe yn y dyfodol."

 

Cyngor Abertawe yw landlord Maes Awyr Abertawe.

 

Mae materion gyda'r tenant blaenorol wedi arwain at roi terfyn ar y brydles bresennol.

  

Llun: Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, a Chadeirydd Swansea Airport Stakeholders' Alliance, Bob Oliver, yn y maes awyr. Llun: Cyngor Abertawe

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Medi 2024