Toglo gwelededd dewislen symudol

Mesurau traffig wedi'u cynllunio ar gyfer Sioe Awyr Cymru

Disgwylir i Sioe Awyr Cymru Abertawe ddychwelyd ar 2 a 3 Gorffennaf wrth i'r ddinas barhau i adfer yn dilyn y pandemig.

Tigers Display Team

Tigers Display Team

Disgwylir i ddegau ar filoedd o ymwelwyr ymweld â phromenâd a glannau'r ddinas ar gyfer y penwythnos o hwyl.

Eleni, fel mewn blynyddoedd blaenorol, bydd newidiadau i'r ffyrdd er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel, gan gynnwys cau Oystermouth Road i'r ddau gyfeiriad drwy gydol y sioe.

Ddydd Gwener 1 Gorffennaf, bydd Oystermouth Road ar gau i'r gorllewin - i gyfeiriad y Mwmbwls - o ganol dydd rhwng cyffordd Ffordd y Gorllewin â Brynmill Lane. Bydd dargyfeiriadau ar waith drwy Carmarthen Road. Bydd hyn yn caniatáu i arddangoswyr a masnachwyr osod eu stondinau ar y ffordd gerbydau i'r gorllewin. Bydd traffig ar Oystermouth Road yn gallu teithio i'r dwyrain tan fore dydd Sadwrn.

Dros y penwythnos, bydd Oystermouth Road ar gau i'r ddau gyfeiriad - rhwng cyffordd Ffordd y Gorllewin â Sketty Lane - o 8am ddydd Sadwrn i 5am ddydd Llun.

Cynhelir mynediad i'r Marina, Llyn Cychod Parc Singleton a Phrifysgol Abertawe drwy gydol y digwyddiad.

Bydd mynediad i gerbydau argyfwng ar bob adeg.

Bydd rhai o beilotiaid ac arddangosiadau hedfan gorau'r byd yn defnyddio amffitheatr naturiol Bae Abertawe i arddangos eu sgiliau, gyda pherfformiadau erobatig anhygoel.

Bydd prom Abertawe'n cael ei drawsnewid gydag arddangosfeydd ar y ddaear, tryciau bwyd a diod, cerddoriaeth fyw, arddangosiadau, gweithgareddau i deuluoedd, reidiau a mwy.

Mae poblogaeth Sioe Awyr Cymru wedi tyfu, o 75,000 o ymwelwyr yn ei flwyddyn gyntaf yn 2009, i gynulleidfa o oddeutu 250,000.

Cafodd y digwyddiad, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, ei gynnal diwethaf yn 2019 cyn iddo gael ei ganslo oherwydd y pandemig.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae preswylwyr Abertawe ac ymwelwyr o bob rhan o'r wlad yn dwlu ar y Sioe Awyr. Dyma un o ddigwyddiadau am ddim gorau'r DU - mae'n wych gallu'i gynnal unwaith eto!"

Gall gwylwyr gyrraedd safle'r sioe awyr o 10am bob dydd, sef amser agor yr arddangosfeydd ar y ddaear. Bydd y sioe'n dod i ben am 5pm ar y dydd Sadwrn ac ychydig wedi 6pm ar nos Sul.

Yn ôl yr arfer, bydd rhan o Oystermouth Road ar gau am y penwythnos er mwyn sicrhau amgylchedd digwyddiadau diogel i'r llu o ymwelwyr. Mae safle'r digwyddiad, fel y gwnaeth yn 2018 a 2019 - yn caniatáu ar gyfer nifer mawr o arddangosfeydd ar y ddaear ac yn creu ardal i ymwelwyr lle gall pobl symud yn ddiogel heb berygl traffig. Bydd mynediad i gerbydau argyfwng ar bob adeg.

Mae dargyfeiriadau a chyfleusterau parcio wedi'u trefnu - ac mae meysydd parcio a theithio ar gael - i sicrhau y gall ymwelwyr gyrraedd y digwyddiad wrth gadw traffig i symud o gwmpas y ddinas cymaint â phosib.

Bydd canol y ddinas ar agor am fusnes o hyd.

Meddai'r Cyng. Francis-Davies , "Er mwyn darparu ar gyfer ymwelwyr niferus y sioe yn ddiogel ac yn gyfforddus, mae angen llawer iawn o le arnom. Am y rheswm hwn, mae rhannau o Oystermouth Road wedi'u cynnwys fel rhan o safle'r digwyddiad. Dim ond drwy gau rhan fer ohoni'n gyfan gwbl i draffig y gellir gwneud hyn yn ddiogel.

"Mae cau'r ffordd yn fesur diogelwch.Fodd bynnag, rydym wedyn yn ceisio gwneud y gorau o'r safle hwn i wella cynnwys y sioe.

"Rydym am ledaenu'r neges honno nawr, mewn da bryd cyn y digwyddiad, fel bod pobl yn ymwybodol bod ffyrdd ar gau dros dro a sicrhau bod amser i gynllunio'n briodol ar gyfer hynny.

"Rydym yn gwybod y bydd hyn yn tarfu ar fodurwyr ond rydym wedi gwrando ar adborth o'r gorffennol ac, o ganlyniad i hyn, bydd Oystermouth Road ar agor i draffig sy'n mynd i'r gorllewin tan 12pm ddydd Gwener a bydd y ffordd ar agor i draffig sy'n mynd i'r dwyrain tan 8am ddydd Sadwrn.

"Bydd hyn yn helpu i gadw'r traffig i fynd ddydd Gwener pan fydd yn brysur. Anogaf fodurwyr i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau." 

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd,   "Mae Oystermouth Road yn un o'n llwybrau prysuraf felly nid ar chwarae bach y daethpwyd i'r penderfyniad i'w chau ar gyfer y sioe awyr. Dyma'r unig ddewis i ddiogelu'r miloedd lawer o ymwelwyr.

"Mae ein tîm priffyrdd wedi gosod cyfres o ddargyfeiriadau i gadw'r traffig i symud dros y penwythnos.

"Rydym yn hysbysebu'r cau ffyrdd a'r dargyfeiriadau mor eang â phosib i alluogi modurwyr i gynllunio'u teithiau ymlaen llaw. Gobeithir y bydd hyn yn helpu i leihau'r tarfu ar y rheini nad ydynt yn dod i'r digwyddiad ac yn gwella'r profiad i'r sawl a fydd yn bresennol."

Manylion llawn Sioe Awyr Cymru a gwybodaeth am deithio www.walesnationalairshow.com

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Mehefin 2022