Myfyrwyr safon uwch yn dathlu canlyniadau arbennig
Mae myfyrwyr safon uwch Abertawe'n dathlu heddiw ar ôl derbyn canlyniadau gwych.
Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol (graddau A* i E) o 97.9% yn debyg i 97.4% ar gyfer Cymru gyfan.
Mae canlyniadau Abertawe ar gyfer 2024 yn wych, gyda 33.7% yn cyflawni graddau A*-A (29.9% yng Nghymru).
Ar y cyfan, roedd 77.3% o'r graddau yn raddau C neu uwch yn Abertawe.
Roedd bron i 610 o bobl ifanc o'r saith ysgol yn Abertawe sydd â chweched dosbarth yn aros i gael gwybod sut gwnaethant gyda'u canlyniadau sy'n hanfodol ar gyfer eu dyheadau o fynd ymlaen i'r brifysgol neu i addysg neu hyfforddiant arall.
Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Mae ein holl fyfyrwyr safon uwch yn haeddu llongyfarchiadau enfawr ar gyfer eu cyflawniadau eleni, a hoffwn ddymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol ac rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonynt yn edrych yn ôl ar eu hamser yn ein hysgolion yn Abertawe gydag anwyldeb.
"Wrth gwrs ni fyddai eu llwyddiannau wedi bod yn bosib heb waith caled a chefnogaeth ein hysgolion a'n hathrawon, yn ogystal â theuluoedd y myfyrwyr, felly hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant heddiw."