Toglo gwelededd dewislen symudol

Anrhydedd newydd i Gymraes o fri

Mae anrhydedd newydd yn y ddinas yn cydnabod un o nofelwyr a menywod busnes mwyaf clodwiw Abertawe.

Amy Dillwyn And Her Father

Amy Dillwyn And Her Father

Gosodwyd plac porffor er anrhydedd i Amy Dillwyn yn y parc sy'n dwyn ei henw, ger Arena Abertawe. 

Mae ymgyrch Placiau Porffor Cymru'n cydnabod menywod nodedig, yn coffáu eu cyflawniadau ac yn cadarnhau eu cyfraniad at hanes Cymru. 

Ganed Amy yn Sgeti ym 1845 i deulu enwog Dillwyn, ac ysgrifennodd chwe nofel ar themâu a oedd yn cynnwys ffeministiaeth a diwygio cymdeithasol. 

Yn dilyn marwolaeth ei thad, hi oedd rheolwr gwaith metel y teulu yn Llansamlet, a thrwy hynny hi oedd un o ddiwydianwyr benywaidd cyntaf Prydain. 

Roedd hefyd yn ymgyrchydd cymdeithasol ac yn gymwynaswr, gan ddadlau dros hawliau menywod. Bu farw ym 1935, a hithau'n 90 oed.

Cafodd y plac ei ddadorchuddio heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Dyma ddigwyddiad byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. 

Gellir gweld y plac ar wal allanol bar a bwyty The Green Room ym Mharc Amy Dillwyn. Mae côd QR yno'n cysylltu â manylion am Amy Dillwyn ar wefan History Points. 

Roedd y digwyddiad dadorchuddio'n cynnwys perfformiad gan Lighthouse Theatre o Abertawe a darlleniad gan yr Athro Kirsti Bohata, academaidd llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. 

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart,  "Roedd Amy yn aelod o undeb cenedlaethol cymdeithasau'r etholfraint i fenywod (NUWSS), ac o ganlyniad i'w gwaith ymgyrchu gyda llawer o fenywod dewr eraill, enillodd menywod yr hawl i bleidleisio, sef rhywbeth na ddylid ei anghofio byth. 

"Roedd yn nofelydd o safon ac yn fenyw fusnes graff a llwyddiannus ar adeg pan oedd Abertawe wrth wraidd diwydiant mwyndoddi copr y byd." 
Meddai Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru, "Mae ein placiau porffor yn dathlu menywod gwirioneddol nodedig ac mae Amy Dillwyn yn llawn haeddu'r disgrifiad hwnnw. 

"Roedd yn un o'r diwydianwyr benywaidd cyntaf, a hynny'n aelod o griw dethol iawn, yn ystod y 19eg ganrif, yn ogystal â bod yn nofelydd ac yn ymgyrchydd cymdeithasol. 

"Rydym yn falch iawn o weld plac porffor yn ei dinas frodorol sy'n cydnabod ei chyfraniad at hanes." 

Meddai Elliot King, Aelod o Gabinet y cyngor, "Mae dathlu cyflawniadau Amy Dillwyn yn ffordd deilwng o gydnabod ei chyfraniad anferth at ein dinas."  

Lansiodd grŵp o wirfoddolwyr ymgyrch y Placiau Porffor ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2017. 

Mae'r fenter yn amlygu cyflawniadau'r menywod nodedig niferus sydd wedi gwneud gwahaniaeth yng Nghymru a'r tu hwnt - cyn hynny, roedd llawer ohonynt heb eu dathlu neu roeddent wedi cael eu hepgor o'r llyfrau hanes yn gyfan gwbl.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Mawrth 2025