Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiectau angori wedi'u cymeradwyo ar gyfer pecyn ariannu gwerth £38.4 miliwn

Bydd cymunedau a lleoedd, busnesau lleol a phobl a sgiliau ar draws Abertawe yn elwa o hwb gwerth £38.4 miliwn cyn bo hir.

Swansea at night

Swansea at night

Mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn un o gronfeydd Llywodraeth y DU a fydd yn disodli cronfeydd Ewropeaidd nad ydynt ar gael mwyach yn dilyn Brexit. Mae hefyd yn rhan o agenda codi'r gwastad Llywodraeth y DU.

Bydd y prosiectau angori yn Abertawe, sydd bellach wedi'u cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Abertawe, yn cynnwys y canlynol:

  • Pecyn o gynlluniau i gefnogi busnesau Abertawe gan gynnwys grantiau dechrau busnes, grantiau twf, grantiau lleihau carbon, hyfforddiant i fusnesau symud tuag at ddod yn garbon sero net, a chronfa datblygu eiddo masnachol
  • Prosiect cyflogadwyedd llwybrau at waith a fydd yn cynnwys cymorth i bobl 16 oed ac yn hŷn sy'n anweithgar yn economaidd ac sydd wedi bod yn ddi-waith am amser hir, lleoliadau gwaith â thâl a galwad agored am gyllid grant gwerth £2m er mwyn darparu cymorth cyflogadwyedd arbenigol
  • Trawsnewid lleoedd ar draws y sir, gyda phrosiectau wedi'u clustnodi i gynnwys cyllid grant ar gyfer adeileddau hanesyddol ac ardaloedd cadwraeth, gwelliannau i bentrefi a chanol trefi bach, a gweithgareddau a llwybrau adfywio a arweinir gan dreftadaeth
  • Prosiect angori diwylliant a thwristiaeth a fydd yn cynnwys datblygu rhwydwaith creadigol, sgiliau digidol a chymorth i fusnesau yn y sector hwnnw
  • Prosiect cefnogi cymunedau a fydd yn darparu cyllid grant ar gyfer prosiectau cymunedol a phrosiectau'r trydydd sector
  • Rhoi hwb i ardaloedd gwledig drwy ddarparu cyllid ar gyfer datblygu cymunedol gwledig, gweithgareddau ar thema newid yn yr hinsawdd a chymorth i fusnesau gwledig

Bydd rhagor o wybodaeth am y prosiectau hyn sy'n cael eu rhedeg gan Gyngor Abertawe, a manylion ynghylch gwneud cais am gynlluniau grant sy'n rhan o'r prosiectau, ar gael dros yr wythnosau nesaf.

Bydd hefyd gyfle agored i brosiectau sy'n gysylltiedig â sgiliau wneud cais am £3 miliwn, a chyfle i brosiectau sy'n canolbwyntio ar rifedd oedolion dan thema Lluosi wneud cais am £5.2 miliwn.

Bydd cyfle agored cyffredinol yn helpu i ddarparu'r cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru a gymeradwywyd gan Lywodraeth y DU ym mis Rhagfyr, 2022. Bydd y pecyn hwnnw'n werth o leiaf £8 miliwn ar gyfer prosiectau allanol cymwys fel rhan o'r pecyn ariannu cyffredinol.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Er gwaethaf y ffaith bod y cyllid hwn yn sylweddol llai o'i gymharu â chronfeydd blaenorol yr UE, rydym wedi gweithio'n galed i ddatblygu prosiectau a fydd yn cael yr effaith fwyaf - o fuddsoddi mewn sgiliau a chyflogadwyedd pobl i gynlluniau a fydd yn hybu ein cymunedau trefol a gwledig."

Mae gan bob un o'r pedwar awdurdod lleol rhanbarthol yn Ne-orllewin Cymru eu prosiectau angori lleol eu hunain i'w cymeradwyo cyn bo hir.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023