Cynghorydd yn rhedeg 10k ar gyfer elusen arbennig iawn
Disgwylir i filoedd o bobl gymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral y penwythnos hwn i drechu heriau, cyflawni amserau gorau a chodi arian hanfodol ar gyfer elusennau pwysig.


Ymysg y rhedwyr ddydd Sul 14 Medi fydd y Cyng. Andrea Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau sy'n codi arian ar gyfer Parkinson's UK.
Mae'r Cyng. Williams, sy'n 52 oed, yn byw gyda chlefyd Parkinson's cynnar ond mae hi'n defnyddio'i ddiagnosis fel grym ar gyfer newid.
Dechreuodd ei chyflwr gyda phoen yn ei hysgwydd chwith a chryndod yn ei llaw dde tua thair blynedd yn ôl.
O'r diwedd, cyfeiriwyd y Cyng. Williams at Dr Ffion Thomas, niwrolegydd ac arbenigwr Parkinson's yn y clinig Parkinson's yng Ngorseinon lle derbyniodd ddiagnosis terfynol.
Meddai'r Cyng. Williams, "Pan dderbyniais fy niagnosis, roedd y broses yn rhyfedd oherwydd daeth teimlad o ryddhad yn lle rhwystredigaeth.
"Roedd gen i deimlad cryf o'r dechrau oherwydd roedd fy mam hefyd yn byw gyda Parkinson's, ond roedd y diagnosis yn golygu fy mod i'n gallu cael y driniaeth gywir.
"Mae'r feddyginiaeth ragnodedig wedi gwneud gwahaniaeth calonogol - mae'r cryndod wedi cael ei leddfu ac mae fy lles emosiynol yn well."
Dywedwyd wrth y Cyng. Williams hefyd i wneud mwy o ymarfer corff felly mae hi wedi bod yn rhedeg bob yn ail ddiwrnod, yn codi pwysau ac yn gwneud sesiynau hyfforddiant ysbeidiau dwys.
"Mae'r newid wedi bod yn sylweddol", meddai'r Cyng. Williams. "Mae fy ffitrwydd wedi gwella, ac mae fy hwyliau a fy ngwydnwch cyffredinol wedi gwella hefyd.
Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral, a drefnir gan Gyngor Abertawe, wedi bod yn cael ei gynnal ers 1981, ac mae'r ras ei hun yn cynnwys hanes cyfoethog o gyfranogiad cymunedol a rhoddi elusennol.
Blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae rhedwyr o bob gallu'n dod at ei gilydd ar y cwrs hyfryd ar hyd y glannau i herio'u hunain a chefnogi elusennau sy'n bwysig iawn iddynt.
Dyma fydd ras 10k gyntaf y Cyng. Williams, sydd eisoes wedi codi £2,400 tuag at ei nod o £3,000.
Mae disgwyl iddi hefyd redeg hanner marathon yr haf nesaf i godi rhagor o arian.
Meddai'r Cyng. Williams, "Yn ogystal â chodi arian, mae'r ras hefyd yn helpu gyda gwelededd ac yn helpu Parkinson's UK ar ei genhadaeth i ddod o hyd i wellhad.
"Mae tîm digwyddiadau'r cyngor yn gwneud gwaith gwych wrth drefnu'r digwyddiad bob blwyddyn.
"Mae awyrgylch hynod gyffrous yno, felly dwi'n edrych ymlaen yn fawr at brofi hynny wrth gymryd rhan."
Yn ogystal â'r ras 10k, mae hefyd ras iau 1k, ras iau 3k, ras cadeiriau olwyn a ras y masgotiaid.
Ewch i www.10kbaeabertawe.com i gael rhagor o wybodaeth am ras 10k Bae Abertawe Admiral.
Gallwch hefyd fynd i dudalen y Cyng. Williams sy'n codi arian ar gyfer Parkinson's UK yma i roi arian.