Cannoedd o breswylwyr eisoes yn elwa o ap newydd canol y ddinas
Mae dros 550 o breswylwyr eisoes wedi gosod ap gwe gwobrwyon newydd canol dinas Abertawe ers iddo gael ei lansio'r wythnos diwethaf.
Mae'r ap gwe yn rhoi mynediad i gynigion mewn siopau a bwytai yn ogystal â gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yng nghanol y ddinas.
Ardal Gwella Busnes (AGB) Abertawe sy'n ei gynnal ac fe'i hariennir gan Gyngor Abertawe.
Gall preswylwyr elwa o'r ap newydd sy'n cymryd lle hen ap Calon Fawr Abertawe drwy fynd i app.bigheartofswansea.co.uk a'i osod ar eu dyfeisiau symudol.
Mae'r ap gwe hefyd yn cynnwys cyfeiriadur chwiliadwy o fusnesau canol y ddinas yn ogystal â'u horiau agor, lleoliadau a chyfarwyddiadau i'w cyrraedd.
Mae nodweddion eraill yr ap gwe yn cynnwys adran bwyta allan gyda rhestr o fwytai a chaffis canol dinas Abertawe.
I ddangos eu bod yn byw yn Abertawe a chael mynediad at y cynigion ar yr ap, gall preswylwyr greu cyfrif drwy fynd i dudalen fewngofnodi'r ap drwy'r ddewislen. Gofynnir iddynt wedyn i roi cyfeiriad e-bost, creu cyfrinair a chyflwyno'u côd post yn Abertawe.
Pan fydd preswylwyr yn hawlio cynnig, bydd côd QR yn cael ei ddangos iddynt ar eu dyfais symudol y gallant ei ddefnyddio yn safle'r busnes sy'n darparu'r cynnig.
Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae'n galonogol clywed bod cannoedd o breswylwyr eisoes wedi gosod yr ap gwe newydd gan y bwriedir iddo fod o fudd i bobl leol a busnesau canol y ddinas.
"Bydd busnesau canol y ddinas yn ychwanegu rhagor o gynigion unigryw i breswylwyr Abertawe a gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill dros yr wythnosau a'r misoedd sy'n dod, felly mae e' bendant yn ap sy'n werth ei gael a'i wirio'n rheolaidd i gael gwybod am y gostyngiadau diweddaraf a'r adloniant sydd ar gael yng nghanol y ddinas.
"Dyma gam cyntaf yr ap gwe, a fydd yn datblygu dros amser i gynnwys llawer mwy o wybodaeth."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r ap gwe newydd yn adeiladu ar bopeth arall rydym yn ei wneud i gefnogi'n busnesau yng nghanol y ddinas oherwydd rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw canol y ddinas i gyflogaeth leol a'r economi leol.
"Mae buddsoddiad o dros £1bn yn parhau i drawsnewid canol y ddinas ac rydym wedi lansio ymgyrch 'Joio Canol Eich Dinas' yn ddiweddar ar gyfrifon Facebook ac Instagram y cyngor i gynyddu ymwybyddiaeth o'n busnesau gwych yng nghanol y ddinas - o siopau, y farchnad dan do a bwytai i gaffis, busnesau gweithgareddau, lleoliadau diwylliannol, tafarndai a darparwyr wasanaethau proffesiynol."
Mae'r ap gwe hefyd yn gysylltiedig â chynllun cerdyn ffyddlondeb newydd canol y ddinas sy'n galluogi preswylwyr i gasglu pwyntiau am siopa yn y busnesau sy'n cymryd rhan, gyda chyfle i ennill gwobr fisol.
Gofynnir i fusnesau sydd â diddordeb mewn ychwanegu eu manylion neu gynigion at yr ap gwe gysylltu ag AGB Abertawe drwy naill ai e-bostio info@swanseabid.co.uk neu ffonio 01792 475021.