Y cyngor yn recriwtio 17 prentis adeiladu
Mae Cyngor Abertawe'n lansio'i ymgyrch flynyddol i recriwtio prentisiaid yr wythnos hon ac mae 17 o leoedd ar gael yn nhîm y Gwasanaethau Adeiladau.
Mae parch mawr at raglen arobryn y cyngor am ei bod yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o seiri coed, plymeriaid, trydanwyr, plastrwyr a bricwyr.
Mae ffurflenni cais bellach ar gael ar wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/swyddi a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am un o brentisiaethau'r gwasanaeth adeiladau yw dydd Sul 26 Chwefror.
Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Rwy'n hynod falch o'n rhaglen brentisiaeth oherwydd ein henw da am hyfforddiant o'r radd flaenaf ac am gynhyrchu gwaith crefft a chrefftwyr o safon - yn ddynion ac yn fenywod.
"Mae cannoedd o bobl ifanc leol wedi elwa o'r rhaglen ers ei sefydlu ac wedi derbyn hyfforddiant yn y gwaith gyda thâl. Maent wedi ennill cymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol, sydd wedi'u galluogi i gael gyrfaoedd gwerth chweil yn y cyngor a'r tu allan iddo."