Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arena'n denu ymwelwyr ac yn hybu swyddi yn y ddinas

Yn agos at 110,000 - dyna faint o ymwelwyr y mae Arena Abertawe wedi'u denu ers agor ei drysau gyntaf tua chwe mis yn ôl.

Royal Blood at Swansea Arena

Royal Blood at Swansea Arena

Mae'r arena a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a gynhelir gan Ambassador Theatre Group (ATG), yn sefyll yng nghanol ardal newydd £135m Bae Copr y ddinas.

Mae'r sêr sydd eisoes wedi perfformio yn yr arena'n cynnwys John Bishop, Royal Blood, Alice Cooper a The Cult. Mae tocynnau ar gael o hyd ar gyfer rhai perfformiadau sydd ar ddod gan gynnwys y Kaiser Chiefs nos Fercher 2 Tachwedd a Level 42 nos Fercher 9 Tachwedd.

Mae'r arena wedi cyhoedd Wynne Evans a Russell Howard yn ddiweddar, a disgwylir rhagor o gyhoeddiadau yn yr wythnosau i ddod. Mae sioeau eraill i ddod i'r lleoliad yn cynnwys Jersey Boys o 29 Tachwedd i 3 Rhagfyr, a Bat Out of Hell o 6 Rhagfyr i 15 Rhagfyr.

Mae nodweddion eraill ardal Bae Copr a ddatblygwyd gan y cyngor ac y rheolwyd y gwaith datblygu gan RivingtonHark yn cynnwys y parc arfordirol ar bwys yr arena a'r bont newydd dros Oystermouth Road.

Mae nodwedd arena'r ardal wedi'i hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn.

Mae nifer o arddangosfeydd hefyd wedi'u cynnal yno, yn ogystal â seremonïau graddio prifysgolion.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Arena Abertawe wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddi agor gyntaf yn ôl ym mis Mawrth, gan ddod â mwy fyth o adloniant o'r radd flaenaf i bobl Abertawe a denu ymwelwyr i'n dinas.

"Mae'n ategu lleoliadau diwylliannol eraill fel Theatr y Grand a Neuadd Brangwyn i roi mwy o ddewis nag erioed o'r blaen i breswylwyr lleol, wrth ddod â rhagor o bobl i ganol y ddinas a chreu cyfleoedd ar gyfer busnesau sydd yma'n barod a rhai newydd."

Mae'r Arena hefyd wedi cynhyrchu 22 o swyddi amser llawn a 100 o swyddi rhan-amser hyd yn hyn, gyda recriwtio'n parhau.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Yn ogystal ag adloniant a chyfleoedd hamdden, busnes a byw fforddiadwy newydd, mae'r gwaith cyfredol gwerth £1bn i adfywio canol y ddinas yn ymwneud cryn dipyn hefyd â chreu swyddi newydd ar gyfer pobl leol.

"Dim ond y dechrau yw'r Arena, gan fod cynifer o bethau eraill ar y ffordd fel rhan o brosiectau eraill gan gynnwys ailddatblygu hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin a thrawsnewid safleoedd fel Gogledd Abertawe Ganolog a chanol y ddinas gan yr arbenigwyr adfywio Urban Splash.

"Mae'r sector preifat yn buddsoddi'n drwm hefyd, gyda chynlluniau fel yr 'adeilad byw' sy'n cael ei arwain gan Hacer Developments yn ategu'r cyfan rydym yn ei wneud i greu gwell dinas."

Mae elfennau eraill o Fae Copr yn cynnwys cyfadeilad byw fforddiadwy newydd a gynhelir gan Pobl Group, y mae preswylwyr bellach wedi symud i fyw yno.

Close Dewis iaith