Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Ffigurau'n dangos effaith Arena Abertawe

Mae dros 50,000 o ymwelwyr eisoes wedi mynd i berfformiadau, cynadleddau a seremonïau graddio yn Arena Abertawe.

Alice Cooper at Swansea Arena x 2

Alice Cooper at Swansea Arena x 2

Mae'r arena, a agorodd yn ôl ym mis Mawrth, yn un rhan o ardal £135m Bae Cop a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe.

Mae'r sêr sydd bellach wedi ymddangos ar lwyfan yr arena sydd â 3,500 o seddi ac a gynhelir gan Ambassador Theatre Group, wedi cynnwys Alice Cooper a The Cult, John Bishop a Royal Blood.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r arena sydd yng nghanol ein hardal Bae Copr newydd, wedi bod yn boblogaidd iawn ers iddi agor gyntaf yn y gwanwyn.

"Mae'r lleoliad, ar y cyd â'r parc arfordirol a chyfleusterau newydd eraill, wedi dod yn gyrchfan newydd i breswylwyr Abertawe ac ymwelwyr â'r ddinas, wrth greu swyddi i bobl leol a rhoi hwb i fusnesau lleol.

"Mae'n rhan allweddol o'n gwaith cyfredol i adfywio Abertawe fel ei bod yn un o leoedd gorau'r DU i fyw, astudio ac ymweld ag ef."

Rheolir datblygiad ardal Bae Copr gan RivingtonHark, ac ariannwyd yr arena'n rhannol drwy arian Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Ymysg y perfformiadau eraill sydd wedi'u cadarnhau ar gyfer yr arena yn y misoedd i ddod mae Kaiser Chiefs, Alan Carr, Corey Taylor, Jersey Boys a 90s Baby Pop.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mehefin 2022