Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Perfformwyr yn gyffrous am yr hwb y bydd yr Arena'n ei roi i Abertawe

Bydd arena newydd Abertawe'n denu perfformwyr o'r radd flaenaf, yn rhoi hwb i fusnesau yng nghanol y ddinas ac yn helpu i arddangos ein cyfoeth anhygoel o dalentau lleol, yn ôl perfformwyr sy'n byw yn y ddinas.

Trampolene at Arena

Trampolene at Arena

Mae'r arena sydd â lle i 3,500 o bobl yn un nodwedd o ardal cam un Bae Copr gwerth £135m, a agorodd i'r cyhoedd nos Wener.

Disgwylir i'r arena groesawu ei seren gyntaf nos Fawrth 15 Mawrth pan fydd y digrifwr John Bishop yn perfformio yno.

Y band roc Royal Blood fydd yr act gerddorol ryngwladol gyntaf i berfformio yn yr arena nos Sadwrn 19 Mawrth.

Mae digwyddiadau prawf gyda bandiau lleol eisoes wedi'u cynnal, a Trampolene oedd y brif act ar y noson gyntaf.

Meddai Jack Jones, prif ganwr a gitarydd, "Bob tro roeddwn i'n edrych mas ar y gynulleidfa, doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth. Mae pobl Abertawe wedi bod yn aros am leoliad fel hyn, a nawr bod yr arena ar agor rydym yn fwy awyddus nag erioed i'w defnyddio.

"Roedd yn anrhydedd gallu chwarae rhan yn nigwyddiad agor yr arena, a hoffwn ddweud diolch o waelod fy nghalon i'r holl bobl sydd wedi gweithio'n galed iawn i gyflwyno'r digwyddiad."

Mae ardal cam un Bae Copr yn cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe, gyda'r gwaith datblygu'n cael ei reoli gan RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd sy'n arwain y gwaith adeiladu, gydag Ambassador Theatre Group yn gweithredu'r arena.

Ychwanegodd y canwr, y cyfansoddwr a'r cyflwynydd radio, Mal Pope, "Mae hwn yn ddatblygiad mor gyffrous ar gyfer y ddinas. Mae maint a natur tra chyfoes yr arena'n golygu bod gennym gyfle nawr i groesawu bandiau o safon i ganol Abertawe unwaith eto."

Dywedodd yr actor, yr ysgrifennwr a'r cyfarwyddwr Richard Mylan o Abertawe, sydd newydd lansio Uchelgais Grand - prosiect a gefnogir gan Gyngor Abertawe a fydd yn dod â chynyrchiadau newydd i Theatr y Grand Abertawe - ynghyd â'i  gyd-artistiaid proffesiynol o Abertawe sef Steve Balsamo, Michelle McTernan a Christian Patterson, y bydd Arena Abertawe'n hybu'r ddinas fel cyrchfan.

Meddai, "Mae arena newydd Abertawe'n ychwanegiad hynod gyffrous at dirwedd ddiwylliannol ein dinas. Mae'n lleoliad perfformio amlddefnydd ac arloesol a fydd yn cynyddu lefelau allbwn ac yn creu cyfle i leoliadau eraill amrywio'u cynigion nhw ymhellach."

Mae elfen yr arena o Fae Copr wedi'i hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3bn.

Close Dewis iaith