Toglo gwelededd dewislen symudol

Arfbais

Mae hanes cynnar Arfbais Abertawe yn aneglur. Yn ôl chwedl heb sylfaen, y ddyfais wreiddiol oedd Gwalch y Pysgod, sydd nawr yn arwydd ar yr Arfbais bresennol a hefyd yn bresennol ar fathodyn y Maer.

Sêl y Cyngor

Rhwng 1632 a 1922, roedd Sêl y Cyngor yn arddangos porthcwlis wyth bar a oedd siwr o fod yn hannu o Arfbais teulu Somerset, Arglwyddi Gŵyr. Mae'r porthcwlis hefyd ar fyrllysgau seremonïol y Fwrdeistref, sy'n dyddio o 1753, ac ar eitemau eraill o'r cyfnod hwn. Mae hyn yn awgrymu efallai bod y porthcwlis wedi'i ystyried fel arfbais y Fwrdeistref yn ystod y cyfnod hwn.

Ym mis Ionawr 1843, penderfynodd Pwyllgor Pwrpas Cyffredinol y Cyngor hepgor arfbais y porthcwlis am ddyluniad a ymddangosodd ar sêl dogfen dyddiedig 1548, o'r enw 'Ordinances for the Towne of Swaynsey'. Efallai mai Sêl y Fwrdeistref ar y pryd oedd sêl y ddogfen hon ac fe honnir gan haneswyr cynnar y 19fed ganrif mai'r cynllun a bortreadir arno oedd yr Arfbais a roddwyd i'r Fwrdeistref gan William de Breos, Arglwydd GÝyr yn 1316. Ni all honiadau felly gael eu cefnogi gan dystiolaeth ddogfennol er bod rhyw gysylltiad, gan fod Arfbais de Breos yn ymddangos yn nyluniad y Sêl. Cafodd yr Arfbeisiau eu haddurno fel a ganlyn:

Gules, a Castle double-towered Argent, in the gateway a portcullis half-down or; on each tower a banner bearing the Arms of de Breos, viz. Argent, a lion rampant crusilly or. In chief on a shield or an Osprey rising regardant with a fish, the tail-end in its beak, both proper

Serch hynny, ni chafodd y dyluniad hwn ei fabwysiadu ar gyfer Sêl y Gorfforaeth yn dilyn penderfyniad gan y Pwyllgor. Ond cafodd ei arddangos ar nifer o eitemau o eiddo'r Gorfforaeth, ac mae'n ymddangos yn arbennig ar gloriau Llyfrau Cofnodion y 19fed Ganrif a chyfrolau o ddogfennau eraill y Gorfforaeth. Serch hynny, mabwysiadwyd y dyluniad hwn fel Sêl Gyffredinol y Cyngor ym mis Tachwedd 1922, ac mae'n dal i ymddangos ar Sêl bresennol y Cyngor.

Yr arfbais swyddogol a ddefnyddir heddiw

Rhoddwyd Arfbais swyddogol a ddefnyddir gan y Cyngor heddiw gan Goleg yr Arfau yn 1922. Mae'r Arfbeisiau hyn yn amrywio ychydig o'r cynllun a welir ar y darian. Cafodd yr Arfbeisiau eu haddurno fel a ganlyn:

Per Fess wavy Azure and barry wavy of six Argent, of the first a double-towered Castle or, in Chief on an Inescutcheon of the third a Lion passant guardant Gules; And for the Crest, On a Wreath of the Colours an Osprey rising holding in the Beak a Fish proper; Supporters: on the dexter side a Lion Gules gorged with a Mural Crown or, and on the sinister side a Dragon Gules gorged with a Mural Crown or.

Yr arwyddair yw 'Floreat Swansea'.

Symbolaeth

Mae'r Arfbeisiau, i ryw raddau, yn symbolaidd: mae'r Castell yn cynrychioli amddiffynfeydd y Dref o'r Oesoedd Canol (mae Cestyll yn ymddangos yn rheolaidd mewn Herodraeth Ddinesig); mae'r bariau glas a gwyn tonnog yn cynrychioli'r môr, oherwydd porthladd yw Abertawe; mae'r llew yn gefnogwr ar y ddehau ac ar yr ynarflen coffeir y cysylltiad â theulu de Breos; a'r ddraig fel cefnogwr sinistr, yw Symbol Cenedlaethol Cymru ac mae'n cefnogi Arfbais Maer presennol Abertawe.

Ym mis Ebrill 1974, unodd Dinas Abertawe â Rhanbarth Gwledig GÝyr i ffurfio Rhanbarth a Dinas newydd Abertawe. Trosglwyddwyd yr Arfbais a roddwyd i Gorfforaeth Bwrdeistref Sirol Abertawe yn 1922 heb ei newid i'r Cyngor Dinesig ym mis Mai 1975. Cadarnhawyd ail-roddi'r Arfbais drwy Dystysgrif Trosglwyddo Coleg yr Arfau dyddiedig 11 Mawrth 1976.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Gorffenaf 2021